Llyn Sarnau
llyn bychan ger Betws-y-Coed yn Eryri
Llyn bychan yng nghymuned Betws-y-Coed, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llyn Sarnau.[1] Saif ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Nghoedwig Gwydyr tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin o bentref Betws-y-Coed.[2] Arwynebedd: 3 acer.[3]
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Coedwig Gwydyr ![]() |
Sir | Conwy |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 0.012 km² ![]() |
Uwch y môr | 238 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.115065°N 3.826044°W ![]() |
Cod OS | SH778591 ![]() |
![]() | |
Ceir tir corsiog o gwmpas y llyn. Ychydig i'r dwyrain ceir llyn bychan iawn gyda ffordd goedwigaeth yn rhedeg rhyngddo a Llyn Sarnau.[2]
Mae'r ffordd sy'n cysylltu'r Tŷ Hyll ar ffordd yr A5 â'r B5106 ger Trefriw yn mynd heibio i ben gogleddol y llyn wrth ddringo i Nant Bwlch yr Haearn. Tua hanner milltir i'r de ceir Llyn Pencraig.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8c/Llyn_Sarnau_with_Moel_Siabod_beyond_-_geograph.org.uk_-_1597580.jpg/250px-Llyn_Sarnau_with_Moel_Siabod_beyond_-_geograph.org.uk_-_1597580.jpg)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 5 Mawrth 2022
- ↑ 2.0 2.1 Map OS 1:25,000 Eryri, Ardal Dyffryn Conwy.
- ↑ Donald L. Shaw, Gwydyr Forest in Snowdonia: a History, Forestry Commission Booklet 28 (HMSO, 1971)