Llyn Stwlan

llyn cronfa ddŵr, Gwynedd, Cymru

Cronfa ddŵr gerllaw pentref Tanygrisiau yn ardal Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd yw Llyn Stwlan. Saif y llyn yn y bwlch rhwng copaon y Moelwyn Mawr a'r Moelwyn Bach, 1,570 troedfedd uwch lefel y môr.

Llyn Stwlan
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFfestiniog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.980651°N 3.99067°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganFirst Hydro Company Edit this on Wikidata
Map
Llyn Stwlan

Yn wreiddiol roedd Llyn Stwlan yn llyn naturiol bychan. Adeiladwyd yr argae i ffurfio'r llyn presennol fel rhan o gynllun cynhyrchu trydan dŵr Tanygrisiau yn niwedd y 1950au, a agorwyd yn swyddogol yn 1961. Mae gan y llyn yn awr arwynebedd o 22 acer. Mae'r orsaf bŵer yma yn defnyddio trydan ar adegau pan nad oes cymaint o alw amdano i bwmpio dŵr o Lyn Tanygrisiau islaw i fyny i Lyn Stwlan. Pan fo mwy o alw am drydan, mae'r dŵr yn cael ei ollwng yn ôl i lawr i gynhyrchu trydan. Oherwydd hyn mae lefel y llyn yn amrywio yn fawr.

Mae Afon Stwlan yn llifo allan o'r llyn ac yn llifo i mewn i Lyn Tanygrisiau.

Llyfryddiaeth golygu

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)