Llyn Tecwyn Uchaf
llyn cronfa ddŵr ger Llandecwyn, Gwynedd, Cymru
Llyn ar lethrau'r Rhinogydd yng Ngwynedd yw Llyn Tecwyn Uchaf. Saif i'r dwyrain o dref Penrhyndeudraeth ym mhlwyf Llandecwyn, 509 troedfedd uwch lefel y môr.
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talsarnau |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 509 troedfedd |
Cyfesurynnau | 52.924°N 4.023569°W |
Cod OS | SH6410038100 |
Rheolir gan | Dŵr Cymru |
Adeiladwyd argae yma yn 1896 ac un arall yn 1920 i godi lefel y dŵr; mae'r llyn yn cyflenwi dŵr i ardal Penrhyndeudraeth, Porthmadog a Maentwrog. Mae'n lyn gweddol fawr, gydag arwynebedd o 31 acer. Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno ag Afon Dwyryd. Ceir pysgota am frithyll yn y llyn.
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)