Llyn y Cŵn
llyn yn y Glyderau, Eryri
Llyn yn y Glyderau, Eryri yw Llyn y Cŵn. Mae'n gorwedd ar darn o dir gwastad uchel rhwng Glyder Fawr i'r de-ddwyrain ac Y Garn i'r gogledd-orllewin. Uchder: 711m (tua 2,400 troedfedd).
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.105697°N 4.038112°W |
Ceir sawl ffordd o gyrraedd y llyn. O faes parcio Bwthyn Ogwen gellir dilyn y llwybr at Lyn Idwal. Wedi mynd heibio Llyn Idwal mae'r llwybr yn dringo'n serth heibio'r Twll Du i gyrraedd tir gwastad ger Llyn y Cŵn. (Sylwer na ddylid ceisio dringo i fyny hafn y Twll Du heb raff.) O gyfeiriad Nant Peris mae llwybr yn dringo o'r pentref trwy Gwm Cneifio i'r llyn. Gellir ei gyrraedd hefyd trwy ddilyn prif grib y Glyderau, gan gychwyn o gyrion Capel Curig i'r dwyrain neu Fethesda i'r gogledd.