Llyn y Frithgraig

llyn

Llyn bychan yn Sir Conwy yw Llyn y Frithgraig (neu Llyn y Ffrithgraig mewn rhai ffynonellau[1]). Fe'i lleolir yn ne'r sir bron am y ffin â Gwynedd, tua 2 filltir i'r de o Gwm Penmachno a thua 3 milltir i'r dwyrain o dref Blaenau Ffestiniog.[2]

Llyn y Frithgraig
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPenmachno Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.994032°N 3.864545°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn bychan ydyw, 1,400 troedfedd i fyny mewn ardal o hen waith chwarel. Mae'r dŵr yn fas a does dim pysgod ynddo.[3]

Saif Llyn y Gors tua hanner milltir i'r de o'r llyn hwn.

Cyfeiriadau golygu

  1. Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 137.
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 115 Caernarfon a Bangor.
  3. Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 123 ("Ffrithgraig").
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.