Llyn y Gaseg Fraith

llyn yn Conwy, Cymru

Llyn bychan yn Eryri yw Llyn y Gaseg Fraith (ceir sawl amrywiad ar yr enw, e.e. Llyn Caseg Fraith, Llyn Caseg-Fraith). Fe'i lleolir yn y Glyderau rhwng Foel Goch i'r dwyrain a Glyder Fach i'r gorllewin, ger Capel Curig yn Sir Conwy, yn agos iawn i'r ffin rhwng Conwy a Gwynedd.[1]

Llyn y Gaseg Fraith
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd, Conwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd0.0069 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr749 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.105691°N 3.987976°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn y Gaseg-fraith o'r llwybr i'r Glyder Fach

Mae'r llyn ar lwyfandir uchel sy'n cael ei groesi gan Lwybr y Chwarelwyr, sy'n cysylltu Nant Ffrancon a Phen-y-Gwryd. Dyma'r llwybr byddai chwarelwyr o ardal Bethesda yn cerdded bob wythnos i gyrraedd chwareli Llyn Llydaw ger yr Wyddfa.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Map OS !:25,000 Eryri
  2. Terry Marsh, The Mountains of Wales (Llundain, 1981), tud. 48.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.