Llys Cyfiawnder Rhyngwladol
Prif lys barn y Cenhedloedd Unedig yw'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (Saesneg: International Court of Justice, Ffrangeg: Cour internationale de Justice). Ei bencadlys yw'r Palas Heddwch yn Den Haag yn yr Iseldiroedd.
Palas Heddwch, Den Haag, pencadlys y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol | |
Enghraifft o'r canlynol | llys rhyngwladol, prif ran o'r Cenhedloedd Unedig |
---|---|
Label brodorol | International Court of Justice |
Rhan o | system y Cenhedloedd Unedig, Y Cenhedloedd Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 1945 |
Lleoliad | Den Haag |
Pennaeth y sefydliad | President of the International Court of Justice |
Rhagflaenydd | Permanent Court of International Justice |
Rhiant sefydliad | Y Cenhedloedd Unedig |
Pencadlys | Palas Heddwch |
Enw brodorol | International Court of Justice |
Rhanbarth | Den Haag |
Gwefan | https://www.icj-cij.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y llys gan Siarter y Cenhedloedd Unedig yn 1945, a dechreuodd ar ei waith yn 1946. Ei brif waith yw barnu ar faterion cyfreithiol a gyflwynir iddo gan wahanol wledydd ac i roi barn ar ymholiadau cyfreithiol gan wahanol sefydliadau. Mae'n cynnwys 15 barnwr a etholir am gyfnod o naw mlynedd gan y Cenhedloedd Unedig. Cynhelir etholiadau bob tair blynedd, gyda thraean o'r aelodaeth yn ymddeol neu'n ceisio ail-etholiad bob tro.