Llysiau'r bara

(Ailgyfeiriad o Llysiau bara)
Llysiau'r bara
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Coriandrum
Rhywogaeth: C. sativum
Enw deuenwol
Coriandrum sativum
L.

Perlysieuyn digon cyffredin ydy Llysiau'r bara, Brwysgedlys neu weithiau yn ddiweddar: Coriander (Sa: Coriander; Lladin: Coriandrum sativum). O dde-orllewin Asia a gogledd Affrica y daeth yn wreiddiol. Gall dyfu hyd at 50 cm o uchder ac mae'r dail yn amrywio o ran siap ond yn teneuo wrth fynd i fyny'r planhigyn.

Rhinweddau meddygol golygu

Fe'i defnyddiwyd ers canrifoedd yn Iran oherwydd ei allu i leihau gordyndra ('anxiety') ac i ymlacio'r claf. Arferid defnyddio'r hadau yno hefyd yn ogystal â'r dail.[1]

Credir hefyd y gall gynorthwyo i dreulio bwyd ac i wella poen bol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Coriandrum sativum: evaluation of its anxiolytic effect in the elevated plus-maze gan Emamghoreishi M, Khasaki M, Aazam, 2005.
  2. Gwefan PDR Health

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am berlysieuyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.