Llysywen Bendoll yr Afon

Pysgodyn sy'n byw yn y môr ac mewn dŵr croyw
Llysywen Bendoll yr Afon
Llun y rhywogaeth
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Cephalaspidomorphi
Urdd: Petromyzontiformes
Teulu: Petromyzontidae
Genws: Lampetra
Rhywogaeth: L. fluviatilis
Enw deuenwol
Lampetra fluviatilis
(Linnaeus 1758)

Pysgodyn sy'n byw yn y môr ac mewn dŵr croyw ac sy'n perthyn i deulu'r Petromyzontidae ydy'r llysywen bendoll yr afon sy'n enw benywaidd; lluosog: llysywod pendoll yr afon (Lladin: Lampetra fluviatilis; Saesneg: European river lamprey).

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Ewrop ac mae i'w ganfod ar adegau yn aberoedd ac arfordir Cymru.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]

Profiadau maes golygu

Ceir sawl cofnod am y lysywen hon, gan gynnwys:

  • “Cefais alwad amser cinio heddiw, Mehefin 16, 2012i ddweud bod pethau rhyfedd iawn o dan Bont Fawr, Llanrwst. Rhedais i'r car i nol y camera a chael cyfle i weld a tynnu llun llysywen bendoll yr afon, river lamprey. Roedd pedair neu bump ohonynt yno. Dyma'r tro cyntaf i mi weld y pysgod yma. Buaswn yn falch o gael mwy o wybodaeth amdanynt”.[2]
  • Wedi gweld rhai o'r rhain yn yr afon ym Mharc Glynllifon rhyw 3 i 4 blynedd yn ôl. Roeddynt yn ymgordeddu o gwmpas ei gilydd a rhai yn cydio mewn cerrig hefo'i ceg fel petaent yn gwneud lle i ddodwy. Roedd eu ceg fel twll o dan y corff, dim ceg yn agor a chau fel un pysgodyn. Heb weld rhai ers hynny yno.[3]
  • Byddwn yn gweld y rhain yn dod i afon Dwyfor yn flynyddol o'r 60gau hyd yn ddiweddar... yn cydio mewn gwiniadau neu eog allan yn y môr ac yn dod i fyny'r afon i ddodwy yn ystod yr haf. Byddai rhai llathen a mwy i'w gweld islaw pont osgoi Llanystumdwy.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu