Llwybr Arfordir Cymru

(Ailgyfeiriad o Llwybr yr Arfordir)

Llwybr pellter hir sy'n dilyn holl arfordir Cymru yw Llwybr Arfordir Cymru. Mae'n ymestyn am 870 milltir (1,400 km) o gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.[1] Agorwyd y llwybr yn swyddogol ar 5 Mai 2012 ond mae'n defnyddio sawl llwybr hŷn megis Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Llwybr Arfordir Sir Benfro. Mae'n rhedeg trwy ddau Barc Cenedlaethol, tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac 11 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.[2]

Llwybr Arfordir Cymru
Mathllwybr troed, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.39°N 4°W Edit this on Wikidata
Map
Diwedd y llwybr yng Nghas-gwent
Mae llawer o'r arfordir wedi'i ddiogelu fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig; Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n eu hamddiffyn.
Fideo o forlin (neu arfordir) Cymru, o dan y dŵr

Mae'r llwybr mor agos i’r arfordir ag y caniatâ’r gyfraith, ac yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, rheoli tir a chadwraeth.[3]

Llwybrau rhanbarthol golygu

 
Placyn llawr Llwybr yr Arfordir, Penarth
  1. Llwybr y Gogledd: Caer - Prestatyn - Y Rhyl - Llandudno - Conwy - Penmaenmawr
  2. Llwybr Arfordirol Ynys Môn: Biwmares - Moelfre - Amlwch - Caergybi - Aberffraw - Niwbwrch
  3. Llwybr Menai Llŷn: Bangor - Caernarfon - Aberdaron - Pwllheli - Porthmadog - Y Bermo - Tywyn - Aberdyfi
  4. Llwybr Arfordir Ceredigion: Machynlleth - Aberystwyth - Aberaeron - Llangrannog - Aberteifi
  5. Llwybr Arfordir Sir Benfro: Abergwaun - Tyddewi - Aberdaugleddau - Doc Penfro - Llangofen - Dinbych-y-pysgod - Amroth
  6. Llwybr Arfordir Sir Gaerfyrddin: Pentwyn - Talacharn - Caerfyrddin - Cydweli - Porth Tywyn - Llanelli
  7. Llwybr arfordir Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe: Casllwchwr - Rhosili - Y Mwmbwls - Abertawe - Porth Talbot - Margam
  8. Llwybr arfordir De Cymru ac Aber Hafren: Y Barri - Bae Caerdydd - Penarth - Casnewydd - Trefynwy - Cas-gwent

Llyfryddiaeth golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu