Unol Daleithiau Awstria Fawr

Datganoli pwer Ymerodraeth Awstria-Hwngari i greu gwladwriaeth ffederal

Roedd Unol Daleithiau Awstria Fawr neu Vereinigten Staaten von Groß-Österreich (hefyd, Vereinigte Staaten von Großösterreich) yn syniad gan garfan wleidyddol oedd yn agos i'r Archddug Franz Ferdinand ar sut gellid ad-drefnu Ymerodraeth Awstria-Hwngari ar ffurf ffederal gan ateb pryderon a galwadau y gwahanol genhedloedd oddi fewn i'r ymerodraeth aml-ethnig. Ni wireddwyd mor prosiect. Prif ladmerydd ac arbenigwr y prosiect oedd y cyfreithiwr a'r gwleidydd Rwmanaidd, Aurel Popovici, a gyhoeddodd y cynllun yn 1906.

Map arfaethedig Unol Daleithiau Awstria Fawr, gan Popovici, 1906

Cyd-destun

golygu

Erbyn dechrau'r 20g roedd cwestiwn hawliau cenedlaethol ac ieithyddol y dwsin neu ragor o genhedloedd a chymunedau oddi fewn i Ymerodraeth Awstria-Hwngari yn chwarae rhan ganolog yng ngwleidyddiaeth y frenhiniaeth.

Sefydlodd Cyfaddawd Awstria-Hwngari yn 1867 frenhiniaeth ddeuol. Llwyddodd y Cyfaddawd i ail-sefydlu, i bob pwrpas, annibyniaeth Hwngari[1] gan ei wneud yn annibynnol o reolaeth ganolog Awstria. Ond achosodd y ffafriaeth a ddangoswyd i'r Hwngariaid, ail gymuned genedlaethol ac ieithyddol fwyaf yr Ymerodraeth ar ôl yr Almaenwyr, i genhedloedd eraill oedd o dan eu rheolaeth, fel y Slofaciaid a'r Rwmaniaid i deimlo'n anniddig[2]

Problem fwyaf yr Ymerodraeth oedd bod y ddwy brif genedl yr Almaenwyr a'r Hwngariaid (oedd ond ill dau ond yn 44% o holl boblogaeth yr Ymerodraeth) yn tra-arglwyddiaethu ar y cenhedloedd eraill - sef dros hanner y boblogaeth. O fewn tiriogaeth Hwngari o'r Ymerodraeth roedd pwysau Magyareiddio trwm a llym i geisio troi iaith ac hunaniaeth y Croatiaid, Slofaciaid a Rwmaniaid i mewn i un Hwngareg. Roedd polisiau tebyg i'r Welsh Not yng Nghymru yn cael eu gweithredu yno a diffyg cydnabyddiaeth o genedligrwydd y Slofaciaid, er enghraifft.[3].

Bwriad yr Archddug Franz Ferdinand pan ddeuai yn Ymeradwr oedd ail-lunio'r Ymerodraeth gan roi hawliau i daleithiau newydd oddi fewn i system Cyd-ffederal. Golygai hyn docio ar rym a maint Hwngari - polisi na fyddai'n boblogaidd gan y Magyariaid. Gyda saethu'r Archddug yn Sarajevo yn 1914 ac yna ymrannu'r Ymerodraeth wedi'r Rhyfel Mawr, ni wireddwyd y cynllun, er i Ymeradwr olaf Awstria-Hwngari, Karl I wneud addewidion sylweddol i ddatganoli'r Ymerodraeth a rhoi hawliau cenedlaethol i'r Slafiaid a'r cenhedloedd eraill yn nyddiau olaf y Rhyfel.

Diddymu Ymerodraeth Awstria-Hwngari

golygu

Gyda cholli'r Rhyfel Byd Cyntaf bu i'r Ymerodraeth ymrafael wrth i'r gwahanol genhedloedd ddatgan annibyniaeth o'r rym y canol. Gyda Cytundeb Saint-Germain ar 10 Medi 1919 lluniwyd ffiniau yr hyn oedd yn weddill o ochr Awstria o'r Ymerodraeth. Gyda llofnodi Cytundeb Trianon ar 4 Mehefin 1920 lluniwyd ffiniau newydd gwladwriaeth lai Hwngari. Roedd sawl ffin a gynigiwyd ym map UDAF yn debyg i ffiniau'r gwladwriaethau newydd.

Taleithiau a gynigwyd gan Aurel Popovici

golygu

Yn ôl cynlluniau Popovici, byddai'r tiriogaethau canlynol yn dod yn daleithiau o'r ffederasiwn ar ôl y diwygiad. Roedd hefyd elfen gref o statws a datganoli diwylliannol ac ieithyddol i fod oddi fewn i rai o'r dinasoedd mawrion a rhanbarthau yn y taleithiau hefyd. Roedd y rhain fel rheol (ond nid yn unig) yn pauoedd lle roedd yr iaith Almaeneg yn brif iaith neu'n iaith â chanran sylweddol o siaradwyr. Mae'r grwpiau ethnig canlynol ym mhob tiriogaeth wedi'u rhestru felly.

 
Map arfaethedig o Daleithiau Unedig Awstria Fawr yn gorwedd dros fap o brif grwpiau ethnig Ymerodraeth Awstria-Hwngari
  • Deutsch-Österreich : Awstria-Almaeneg (heddiw Awstria gyda thalaith De Tirol sydd nawr yn yr Eidal; rhanbarth Coedwig Bohemia a De Moravia sef y rhan ddeheuol a adnabwyd yn diweddarach fel y Sudetenland sydd nawr yn Gweriniaeth Tsiec, yn ogystal â'r Burgenland rhanbarth yng ngorllewin Hwngari gan gynnwys Sopron (Ödenburg), Mosonmagyarovar (Wieselburg) a Bratislava sydd nawr yn brifddinas Slofacia), Almaeneg ethnig
  • Deutsch-Böhmen : Bohemia Almaeneg ( tiriogaeth Sudetenland yng ngogledd-orllewin Bohemia, heddiw yn y Gweriniaeth Tsiec), Almaeneg ethnig
  • Deutsch-Mähren : Morafia Almaeneg (gogledd y Sudetenland ym Morafia ac Awstria Silesia, heddiw yn y Weriniaeth Tsiec), Almaeneg ethnig
  • Böhmen : Perfeddwlad Bohemia (rhan ddeheuol a chanolog o Bohemia a Morafia yn y Weriniaeth Tsiec bresennol), Xech ethnig
  • Slowakenland : Slofacia (yn fras Slofacia heddiw ond heb Bratislava), ethnig Slofaciaidd
  • West-Galizien : Gorllewin Galisia (rhan orllewinol Teyrnas Galicia a Lodomeria, oddi fewn i wladwriaeth Gwlad Pwyl heddiw), Pwyleg ethnig
  • Ost-Galizien : Dwyrain Galicia (rhan ddwyreiniol Teyrnas Galicia a Lodomeria a'r Bukovina gerllaw. Tiroedd yn heddiw yn Wcráin a Gwlad Pwyl), ethnig Wcreineg
 
Poblogaeth Hwngari, cyfrifiad 1880-81
  • Ungarn : Hwngari (Hwngari heddiw gyda rhannau o dde Slofacia, Rwthenia Carpathia/Transcarpathia yn Wcráin heddiw, a gogledd Vojvodina sydd heddiw'n rhanbarth o Serbia), Hwngariaid ethnig
  • Seklerland : Gwlad y Székely (rhan o Rwmania), Hwngariaid ethnig. Gweler hefyd Hwngari Fawr
  • Siebenbürgen : Transylvania (y rhan fwyaf o'r Banat a Bukovina, rhan o Rwmania, Serbia ac Wcrain heddiw), Rwmaniaid ethnig
  • Trento : Trentino (rhan o'r Eidal heddiw), Eidaleg ethnig
  • Trieste : Trieste (dinas Trieste a Gorizia yn yr Eidal heddiw a gorllewin Istria sydd nawr yn rhan o Croatia a Slofenia heddiw), Eidaleg ethnig a Slofeniaid
  • Krain : Carniola (yn fras Slofenia heddiw gyda Slofeniaid tiriogaeth deheuol Carinthia sydd heddiw yng ngwladwriaeth gyfoes Awstria), ethnig Slofeneg
  • Kroatien : Croatia (Croatia heddiw, gan gynnwys Srijem sydd heddiw yn Serbia a Boka Kotorska sydd heddiw ym Montenegro), Croateg ethnig a Serb
  • Vojvodina : Vojvodina (rhan o Serbia a Chroatia heddiw), Serb ethnig a Croateg

Yn ogystal, byddai elfen gref o ymrealaeth oddi fewn i'r taleithiau lle ceid 'ynysoedd' Almaeneg ei hiaith yn y Dwyrain; Transylvania, y Banat a rhannau eraill o Hwngari, deheudir Slofenia, dinasoedd mawr (megis Prâg, Budapest, Lviv, ac eraill).

Heriau i'r Cynllun

golygu

Byddai gwireddu'r cynllun yma wedi bod yn her enfawr. Ymysg y prif feini tramgwydd byddai:

  • Byddai'n rhaid i'r Hwngariaid lacio ei gafael a gweld 'colli tir' i'r Rwmaniaid, Wcrainiaid a Croatiaid.
  • Byddai'n rhaid i'r Pwyliaid ildrio i'r Wcrainiaid yn nwyrain Galisia a'r Wcrainiaid dderbyn hawliau Pwyleg yn ninas Lviv.
  • Byddai'n rhaid Tsieciaid a'r Almaenwyr gytuno ar ffiniau eu tiriogaethau yn Bohemia, Morafia a Silesia Awstria, a fyddai wedi bod yn anodd iawn o ystyried y taliadau o'r ddwy ochr galwadau mwyaf cenedlaetholgar.
  • Byddai cymunedau tiriogaethol Almaneg y tu allan i Awstria yn siwr o deimlo eu bod yn colli bri a statws.
  • Byddai'n rhaid i bron pob cymuned ieithyddol dderbyn na fyddai'n bosib i bob un bro fod o fewn eu tiriogaeth.
  • Byddai natur ddwy neu dairieithog nifer o'r trefi (nid dim ond dinasoedd mawrion) wedi gorfodi llawer o gyfaddawdu ar lefel lleol iawn.
  • Heb arweinyddiaeth gref a chadarn gallai'r broses o ddatganoli ac ail-lunio ffiniau wedi sugno nerth ac amser o weinyddiaeth yr Ymerodraeth.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. André Gerrits; Dirk Jan Wolffram (2005). Political Democracy and Ethnic Diversity in Modern European History. Stanford University Press. t. 42. ISBN 9780804749763.
  2. Cornwall, Mark. Last Years of Austria-Hungary: A Multi-National Experiment in Early Twentieth-Century Europe, 2nd ed. Exeter: University of Exeter Press, 2002.
  3. Seton-Watson, R. W. (1925). "Transylvania since 1867". The Slavonic Review 4 (10): 101–23.