Locomotif 143 (Rheilffordd Eryri)

trên sydd bellach yn rhedeg ar Reilffordd Eryri

Mae Locomotif 143 yn locomotif cledrau cul Beyer Garratt dosbarth NGG16 2-6-2+2-6-2 ar Reilffordd Eryri, a adeiladwyd ym 1958 gan Gwmni Beyer Peacock ar gyfer Corfforaeth Copor Tsumeb.[1]

Locomotif 143
Enghraifft o'r canlynolLocomotif Beyer Garratt Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Rhan oSouth African Class NG G16 2-6-2+2-6-2 Edit this on Wikidata
LleoliadRheilffordd Eryri Edit this on Wikidata
Lled y cledrautwo-foot gauge Edit this on Wikidata
GweithredwrSouth African Railways and Harbours Administration Edit this on Wikidata
GwneuthurwrCwmni Beyer Peacock Edit this on Wikidata
GwladwriaethUndeb De Affrica, De Affrica, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthGwynedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes yn Ne Affrica

golygu

Aeth o i Reilffordd De Affrica yn y pen draw. Aeth y locomotif i Port Elizabeth ym 1959, a gweithiodd ar gangen Avontuur. Symudwyd y locomotif i Natal ym 1961 a gweithiodd ar gangen Ixopo. Symudwyd 143 i Port Shepstone ynghanol yr 80au i weithio ar drenau coed.[2]

Rheilffordd Eryri

golygu

Cyrhaeddodd 143 Cymru ym 1997 a dechreuodd waith ym Medi 1998. Du oedd llifrai y locomotif ye adeg honno. Atgyweirwyd 143 ar ddiwedd 2009. Addaswyd y locomotif i ddefnyddio glo, ac ail-beintiwyd y locomotif i fod yn wyrdd Brunswick. Atgyweriwyd 143 eto rhwng 2014 a Mai 2016. Atgyweirir y locomotif eto, gan gynnwys boeler newydd.[3]

Cyfeiriadau

golygu