Locomotif Ivatt Dosbarth 2 2-6-0

Mae’r Locomotif Dosbarth 2 Ivatt 2-6-0 yn locomotif stêm, wedi cynllunio ar gyfer trafig ysgafn cymysglyd ar Reilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban.

Locomotif Ivatt Dosbarth 2 2-6-0
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o locomotifau Edit this on Wikidata
Mathlocomotif cario tanwydd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Lled y cledrau1435 mm Edit this on Wikidata
GweithredwrLondon, Midland and Scottish Railway, London Midland Region of British Railways Edit this on Wikidata
GwneuthurwrCrewe Works, Darlington Works, Swindon Works Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynllunio

golygu

Roedd mwyafrif locomotifau bach y rheilffordd yn hen locomotifau 0-6-0. Roedd Syr William A Stanier wedi canolbwyntio ar locomotifau mawr cyn iddo adael y rheilffordd, er fod o wedi cynllunio locomotif tanc 2-6-2T, seiliedig ar gynllun cynharach Syr Henry Fowler. Cynlluniodd George Ivatt locomotif tanc 2-6-2T, seiliedig ar gynllun Stanier. Ar yr un pryd, cyflwynodd o’r locomotif dosbarth 2 2-6-0, gyda’r gallu i gario mwy o ddŵr a glo na’r locomotif tanc. Roeddent yn llwyddiant, ac adeiladwyd mwy ohonynt gan Rheilffordd Brydeinig ar ôl gwladoli’r rheilffyrdd. Cawsant y llysenw ‘Mickey Mouse’.[1]

Adeiladu

golygu

Adeiladwyd 128 rhwng 1946 a 1953, y mwyafrif yn Waith Cryw. Adeiladwyd 20 gan Reilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban gyda’r rhifau 6400–19, ym 1948 yn troi’n 46400-19. Adeiladwyd 108 eraill, 46420–46527 gan Reilffordd Brydeinig. Roedd gan 46465 ymlaen silindrau mwy, ac oeddent yn fwy pwerus. Gweithiodd y locomotifau adeiladwyd yn Darlington (46465-46502) i’r ardaloedd dwyreiniol a gogledd-ddwyreiniol o Reilffordd Brydeinig]]. Adeiladwyd y 25 olaf (46503-46527) yn Swindon a gweithasant ar ardal orllewinol y rheilffordd. Paentiwyd yn ddu gyda llinellau, ond newidiwyd sawl i wyrdd. Daeth eu gwaith i ben rhwng 1961 a 1967.

Locomotifau adeiladwyd
Rhif Rhif yr archeb Dyddiad Adeiladwyd
LMS BR
6400–09 46400–09 182 1946 Cryw
6410–19 46410–19 189 1947 Cryw
46420–34 194 1948 Cryw
46435–49 201 1950 Cryw
46450–59 207 1950 Cryw
46460–64 208 1950 Cryw
46465–82 1309 1951 Darlington
46483–94 1310 1951 Darlington
46495–502 1310 1952 Darlington
46503–14 394 1952 Swindon
46515–27 394 1953 Swindon
Dyleadau
Blwyddyn Nifer ar ddechrau'r flwyddyn Nifer dyleuwyd Rhifau
1961 128 1 46407.
1962 127 12 46408/15/53/66/69/71/76–78/81/93/95.
1963 115 4 46438/73/83/89.
1964 111 8 46403/09/35/61/67/74–75, 46525.
1965 103 21 46404/13/20/23/25/30/44/56/59/68/72/79/82/88/97–98, 46510–11/24/27.
1966 82 40 46401/05/10/12/14/16/19/21–22/24/26–29/34/42/45–47/50–51/54/58/60/62–64/95–96,
46504/08–09/12–14/17–19/21/26.
1967 42 42 46400/02/06/11/17–18/31–33/36–37/39–41/43/48–49/52/55/57/65/70/80/84–87/90–92/99,
46500–03/05–06/15–16/20/22–23.

Cadwraeth

golygu

Mae 7 ohonynt wedi goroesi; adferir 46428 gan Reilffordd Dwyrain Gaerhirfryn; mae’r 6 arall wedi gweithio. Mae 46441, 46443 a 46521 wedi gweithio ar Rielffordd Brydeinig. Prynwyd 3 ohonynt oddi ar Reilffordd Brydeinig, a’r gweddill (46428, 46447, 46512 a 46521) o Iard sgrap Dai Woodham yn y Barri. Defnyddiwyd 46443 yn ystod pen-blwydd 150 Rheilffordd y Great Western. Mae 46441 wedi ymddangos yn Nepo Carnforth ac ar Reilffordd Dwyrain Gaerhirfryn, Rheilffordd Stêm Ribble a Rheilffordd Lakeside a Haverthwaite.

Rhif BR Delwedd Enw* Adeiladwr Adeiladwyd Diwedd gwaith Bywyd gweithio Safle presennol Cyflwr presennol Llifrai Nodiadau
46428   Gwaith Cryw Rhagfyr 1948 Rhagfyr 1966 17 blwyddyn, 11 Mis Rheilffordd Dwyrain Swydd Garhirfryn Atgyweirir Derbynwyd o iard sgrap Dai Woodham.
46441   Gwaith Cryw Chwefror 1950 Ebrill 1967 17 blwyddyn, 2 Mis Rheilffordd Lakeside a Haverthwaite Atgyweirir Coch BR, bathodyn hwyr gyda llifrai anghywir coch BR Maroon.
46443   Gwaith Cryw Chwefror 1950 Mawrth 1967 17 blwyddyn, 28 Diwrnod Rheilffordd Dyffryn Hafren Arddangosir Du gyda llinellau BR, bathodyn hwyr mewn Storfa, Gorsaf reilffordd Highley.
46447   Gwaith Cryw Mawrth 1950 Rhagfyr 1966 16 Blwyddyn, 9 Mis Rheilffordd Dwyrain Gwlad yr Haf Gweithredol Du gyda llinellau BR, bathodyn hwyr Gweithio ers Rhagfyr 2014. Ar fenthyg o Reilffordd Stêm Ynys Wyth.
46464   The Carmyllie Pilot* Gwaith Cryw Mehefin 1950 Medi 1966 16 blwyddyn, 3 Mis Rheilffordd Strathspey Atgyweirir N Tynnwyd trên cyntaf ar Reilffordd Strathspey ar 22 Gorffennaf 19878.[2] Defnyddiwyd yr enw "Carmyllie Pilot"ar gyfer 46463 a 46464, 2 locomotif o ddepo Dundee Tay Bridge (62B. Defnyddiwyd y ddau ohonynt fel 'pilot' yng Ngorsaf reilffordd Arbroath ac yn gweithio ar gangen Carmyllie, yn myd i ffatri Metal Box neu'r chwareli.
46512   E.V. Cooper, Engineer* Gwaith Swindon Rhagfyr 1952 Rhagfyr 1966 13 blwyddyn, 11 Mis Rheilffordd Strathspey Dim yn gweithio Du gyda llinellau BR, bathodyn cynnar /diwedd tocyn boeler 1af Rhagfyr 2020.
46521   Blossom* Gwaith Swindon Mawrth 1953 Hydref 1966 13 blwyddyn, 7 Mis Rheilffordd y Great Central Gweithredol Gwyrdd BR gyda llinellau, bathodyn cynnar Ail-ddechreuodd waith, Ionawr 2012.

Fuglen

golygu

Ymddangosodd 46521 yn rhageln deledu Oh, Doctor Beeching! gyda’r enw 'Blossom'.[3]

Ymddangosodd 46443 a 46521 yn y ffilm The Seven-Per-Cent Solution.[4]

Gwnaethpwyd y ddau ar Reilffordd Dyffryn Hafren.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cylchgrawn Steam Railway, Tachwedd 2007: 'Bridgnorth's stalwart 'Mickey Mouse' is focus of charter': awdur Simon Hopkins
  2. 46464 Gwaith mewn cadwraeth
  3. "Oh! Doctor Beeching Re-lives", Severn Valley Railway News rhif 119
  4. "A Film in the Making", Severn Valley Railway News rhif 38

Dolenni allanol

golygu