Roedd Henry George Ivatt (4 Mai 18864 Hydref 1972)[1] yn Brif Peiriannydd Rheilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban, ac yn fab i Henry Ivatt, Peiriannydd Rheilffordd y Great Northern. Ganwyd George ar 4 Mai 1886 yn Nulyn ac addysgwyd yn Ysgol Uppingham, Lloegr.[2]

George Ivatt
Ganwyd4 Mai 1886 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw4 Hydref 1972 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpeiriannydd Edit this on Wikidata
TadHenry Ivatt Edit this on Wikidata
PriodDorothy Sarah Harrison Edit this on Wikidata

Bu farw ym Melbourne, Awstralia.

Gyrfa golygu

Daeth o’n brentis yng Ngweithdy Cryw Rheilffordd Llundain a’r Gogledd-Orllewin ym 1904. Gweithiodd yn y Swyddfa Arlunio a daeth o’n bennaeth Gwaith Arbrofol ar Locomotifau. Daeth o’n ben-gweithiwr cynorthwyol yn nepo Gogledd Cryw ym 1909, ac ym 1910 arsylwydd cynorthwyol peirianwaith allanol. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd o’n aelod o staff y Cyfarwyddor Trafnidigaeth yn Ffrainc. Daeth o’n cynorthwyydd y Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford ym 1919.

Rheilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban golygu

Daeth y Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford yn rhan o Reilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban ym 1923. Trosglwyddwyd Ivatt i Derby ym 1928 a daeth o’n oruwchwilydd y gweithdy locomotifau ym 1931. Symudodd i Glasgow ym 1932 i fod yn Beriannydd Adrannol yr Alban. Daeth o’n ôl i Loegr i fod yn Brif Cynorthwyydd i Syr William Stanier.[3] Ymddeolodd Stanier ym 1944 a chymerodd Charles Fairburn ei le. Bu farw Fairburn ym mis Hydref 1945, a cymerodd Ivatt ei le ar 1 Chwefror 1946. Ar ôl y rhyfel, aeth Ivatt ymlaen gyda estyn sawl dosbarth; Adeiladwyd 2 locomotif dosbarth ‘Princess Coronation’ a sawl dosbarth 5MT, ac ailadeiladodd locomotifau dosbarth ‘Royal Scot’ a ‘Patriot’. Cynlluniodd locomotif Dosbarth Ivatt 2MT 2-6-0 a locomotifau Dosbarth Ivatt 2-6-2T a hefyd Dosbarth NCC WT 2-6-4T ar gyfer Rheilffordd y Northern Counties Committee yng Ngogledd Iwerddon. Cynlluniodd hefyd locomotifau diesel Dosbarth D16/1 10000 a 10001’. Ym 1948, daeth o’n Prif Peiriannydd Locomotifau’r Rhanbarth Llundain a’r Canolbarth hyd at ei ymddeoliad ym 1951.

Brush Bagnall Traction golygu

Daeth o’n ymgynghorydd a chyfarwyddwr gyda’r cwmni, ac yn hwyrach rheolwr cyffredinol. Daeth o’n ymddeol fel cyfarwyddwr ym 1957 a fel ymgynghorwr ym 1964. Wedyn, daeth o’n cyfarwyddwr o Brush Traction a gweithiodd ar gynllunio’r locomotif diesel Brush Type 2.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Who was who: A Companion to "Who's Who" (yn Saesneg). A. & C. Black. 1971. t. 404. ISBN 978-0-312-87746-0.
  2. Gwefan Grace's Guide
  3. Griffiths, Denis (1991), Locomotive Engineers of the LMS, Patrick Stephens Ltd ISBN 1-85260-142-6
  4. Toms, George (2008), Brush Diesel & Electric Locomotives 1940-2008, penodau 3 a 4, Venture Publications ISBN 978-1-905304-00-4