Lol

cychgrawn dychanol Cymraeg

Cylchgrawn Cymraeg dychanol yw Lol. Sefydlwyd y cylchgrawn gan Penri Jones a Robat Gruffudd ym Mangor yn 1965. Dyfeisiwyd yr enw Y Lolfa yn arbennig ar gyfer cyhoeddi'r cylchgrawn. Argraffwyd y ddau rifyn cyntaf gan gwmnïau yng Ngarndiffaith a Chaerdydd.

Lol
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1965 Edit this on Wikidata

Y bwriad gwreiddiol oedd creu cylchgrawn ysgafn, poblogaidd ar gyfer pobl ifainc yn bennaf ond gyda chyhoeddi'r trydydd rhifyn yn 1967 yn Eisteddfod y Bala — y rhifyn cyntaf i'r Lolfa ei hun ei argraffu — cymerodd y cylchgrawn dro i gyfeiriad mwy dychanol. Cafwyd prawf buan o hyn yn ymateb ffyrnig Cynan i eiriau amdano a ymddangosodd ar draws bronnau rhyw ferch. Bygythiodd Y Lolfa ag achos enllib ond fe setlwyd y mater yn ddeheuig gan Robyn Léwis, yn gweithredu ar ran y cwmni gyda chyfreithiwr Cynan.[1]

Cafodd y cylchgrawn drafferthion cyfreithiol pellach yn sgil rhai o'r rhifynnau dilynol. Un o'r achosion enwocaf oedd un a ddaeth Syr Alun Talfan Davies yn erbyn y cylchgrawn am stori amdano ef a'i nai, Geraint Talfan Davies, ond gwrthododd Lol ymddiheuro na thalu unrhyw gostau gan ddweud y byddent yn gofyn i'r digrifwr Eirwyn Pontshan eu cynrychioli fel "Amicus Curiae" mewn unrhyw achos uchel-lys.[angen ffynhonnell]

Er ei fod yn gylchgrawn "gwrth-sefydliad", tyfodd i fod yn sefydliad ynddo'i hun, ac yn ddarllen hanfodol i bob eisteddfodwr ar ei drec diwylliannol, blynyddol. Fe'i cyhoeddwyd fwy neu lai yn ddi-dor dan wahanol enwau a gwahanol olygyddion ac yn enw gwahanol gwmnïau, e.e. Gwasg Gwalia. Un o'r golygyddion mwyaf mentrus oedd Eirug Wyn a aeth i gryn helynt yn sgil stori a gyhoeddodd am berthynas cwmni teledu arbennig ag S4C. Yn nodweddiadol, fe wrthododd ymddiheuro am y stori, a bu'n rhaid iddo dalu'n ddrud am hynny.

Ymddangosodd rhai rhifynnau dan yr enw Dim Lol, dan olygyddiaeth Catrin Dafydd ac wedyn Garmon Ceiro, ond wedi bwlch yn 2009, ailymddangosodd Lol dan ei enw gwreiddiol y flwyddyn wedyn ond gyda chyhoeddwyr newydd: Cwmni Drwg Cyfyngedig. Mae wedi ymddangos yn flynyddol ers hynny a dathlodd y cylchgrawn ei benblwydd yn hanner cant oed yn 2015, gan gyhoeddi'r rhifyn mwyaf swmpus erioed. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Y Lolfa Llyfr Mawr Lol (gol. Arwel Vittle) sy'n cynnwys detholion a sylwebaeth ar yr holl rifynnau.

Mae Lol, o dan ei wahanol enwau, yn parhau i werthu tua 4,000 copi y flwyddyn, ac yn un o'r ychydig gylchgronau Cymraeg a gaiff ei gyhoeddi heb nawdd cyhoeddus.

Cyfeiriadau golygu

  1. Tipyn o Lol BBC Cymru Fyw adalwyd 5 Awst 2020

Dolenni allanol golygu