Robyn Léwis
Cyfreithiwr, llenor a chyn-Archdderwydd oedd Robyn Léwis neu Robin Llŷn (Hydref 1929 – 12 Awst 2019).[1]
Robyn Léwis | |
---|---|
Ganwyd | Hydref 1929 Llangollen |
Bu farw | 12 Awst 2019 Nefyn |
Man preswyl | Nefyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, ysgrifennwr, barnwr, bargyfreithiwr |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Robyn yn Llangollen ond symudodd y teulu i dref glan-môr Nefyn pan oedd yn dair oed. Roedd ei dad o Ynys Môn a'i daid o gyffiniau y Cilie yng Ngheredigion. Roedd ei fam yn athrawes Ffrangeg a magwyd ef yn dair-ieithog. Bu hefyd yn ymddiddori mewn Almaeneg a Sbaeneg.[2] Roedd ganddo frawd Richard (Dic) a bu farw yn 2018. Aeth i Ysgol Ramadeg Pwllheli ac Ysgol Fonedd Rydal. Cyn mynd i'r coleg treuliodd flwyddyn yn Ffrainc. Mynychodd Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle cychwynodd radd BA Ffrangeg a Saesneg ond newidiodd i radd yn y gyfraith.[3]
Gyrfa
golyguBu'n ieithydd am gyfnod, cyn dod yn gyfreithiwr. Wedi bwrw erthyglau cyfraith ym Mangor sefydlodd ei hun fel cyfreithiwr ym Mhwllheli. Daeth yn ddirprwy farnwr a Chofiadur Cynorthwyol yn Llys y Goron. Wedi ymddeol yn gynnar o'r swydd honno, daeth yn fargyfreithiwr yn Gray's Inn, Llundain. Enillodd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor am ei draethawd ymchwil "Geiriaduraeth y Gyfraith", ar dermau Cymraeg y gyfraith.
Bu hefyd yn darlithio ar y Gyfraith yn y Gymraeg i ddosbarthiadau nos am tua phum mlynedd.
Gwleidyddiaeth
golyguAr ddechrau ei yrfa, roedd yn weithgar gyda'r Blaid Lafur a sefodd fel ymgeisydd seneddol yn Ninbych yn etholiad cyffredinol 1955. Yn ystod yr 1960au fe adawodd y Blaid Lafur ac ymuno â Phlaid Cymru.
Daeth yn gynghorydd yn ardal Llŷn, a sefodd fel ymgeisydd seneddol Plaid Cymru dros ardal Caernarfon yn etholiad 1970, pan ddaeth yn ail gyda 33% o'r bleidlais. Bu hefyd yn is-lywydd i'r blaid.
Ymddiswyddodd o Blaid Cymru yn 2006 fel protest yn erbyn penderfyniad Elinor Bennett - gwraig arweinydd y blaid ar y pryd, Dafydd Wigley - i dderbyn anrhydedd yr OBE gan y Frenhines.
Llenor
golyguUrddwyd ef i'r Wisg Wen yn Eisteddfod Bro Myrddin ym 1974. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Lliw 1980 am Esgid yn gwasgu. Bu'n Archdderwydd, dan yr enw Robin Llŷn, o 2003 hyd 2006. Dyma'r tro cyntaf i'r Archdderwydd gael ei ddewis trwy bleidlais ymhlith holl aelodau'r Orsedd, a'r tro cyntaf i lenor nad oedd yn fardd gael ei ddewis i'r swydd. Ers 1981 roedd yn Swyddog Cyfraith Gorsedd y Beirdd.
Bywyd personol
golyguRoedd ei wraig, Gwenan Lloyd yn hanu o Borthmadog a Blaenau Ffestiniog - bu farw yn 2013. Treuliodd ef gyfnod yng nghartref gofal Plas Hafan, Nefyn cyn ei farwolaeth yn 89 oed.[4]
Gweithiau
golygu- Second-class citizen : a selection of highly personal opinions mainly concerning the two languages of Wales (Llandysul: Gwasg Gomer, 1969) ISBN 0850880238
- Termau cyfraith = Welsh legal terms (Llandysul: Gwasg Gomer, 1972)
- Esgid yn gwasgu (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980) ISBN 0850886031
- Geiriadur y gyfraith : Saesneg-Cymraeg = The Legal dictionary : English-Welsh (Llandysul: Gwasg Gomer, 1992) ISBN 0863835341
- Cyfiawnder Dwyieithog? (Golwg ar yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn Llysoedd Ynadon Cymru) (Llandysul: Gwasg Gomer, 1998) ISBN 1859025498
- Geiriadur newydd y gyfraith = The new legal dictionary (Llandysul : Gomer, 2003) ISBN 1843231018
- Cymreictod gweladwy (Llandysul: Gomer) Tair cyfrol 1994-1997
- A Fu Heddwch? (Talybont : Y Lolfa, 2006) ISBN 0862439000
- Bwystfilod Rheibus (Caernarfon: Gwasg y Bwthyn, 2008) ISBN 9781904845621
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y cyn-Archdderwydd Robyn Léwis wedi marw yn 89 oed , BBC Cymru Fyw, 13 Awst 2019.
- ↑ Cefndir Yr Archdderwydd newydd (Awst 2002).
- ↑ Y da a'r drwg - Robyn yn rhoi ei gardia' ar y bwrdd; Mae'n enwog am sawl peth, ond nid pawb sy'n gwybod am Robyn Lewis y Tynnwr Coes. Gwenan Davies fu'n sgwrsio ag ef am ei hunangofiant, a gyhoeddir yr wythnos hon. , Daily Post, 12 Mawrth 2008. Cyrchwyd ar 13 Awst 2019.
- ↑ LEWIS - DR ROBYN (Robyn Llŷn). Daily Post (17 Awst 2019).