Lona

nofel gan T. Gwynn Jones

Nofel gan T. Gwynn Jones yw Lona. Fe'i cafodd ei chyhoeddi fel cyfrol yn 1923 (dan yr enw "G.", ond roedd wedi'i hysgrifennu yn 1908 a'i chyhoeddi yn ystod y flwyddyn honno yn y papur newyddion Papur Pawb, yr oedd T. Gwynn Jones yn olygydd arni ar y pryd.[1]

Lona
Clawr fersiwn 2024 gan Melin Bapur
Enghraifft o'r canlynolnofel Edit this on Wikidata
AwdurT. Gwynn Jones
CyhoeddwrHughes a'i Fab (1923)
Melin Bapur (2024)
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncNofelau Cymraeg
ArgaeleddMewn print

Disgrifiad byr golygu

Nofel serch yw Lona am weinidog ifanc, Merfyn Owen, sy'n symud i ardal pentref y Minfor ac yn syrthio mewn cariad gyda Lona O'Neill, merch i Wyddel. Mae Lona'n gymeriad rhamantaidd, chwedl rhai beirniaid, i fod i gynrychioli Cymru ei hun ar ffurf hanfodol, diniwed.[1]. Lona oedd ffefryn Gwynn o blith ei nofelau ei hun[1], ac roedd drama W.B. Yeats Cathlleen Ni Houlihan, a gyhoeddwyd tua'r un pryd, yn gryn ddylanwad arni, er mai stori wreiddiol yw Lona yn hytrach nac addasiad.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Alan Llwyd, Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones (Cyhoeddiadau Barddas, 2019)