Papur Pawb
Papur newydd wythnosol poblogaidd oedd Papur Pawb a ddaeth allan rhwng 1893 a 1917 ac am gyfnod arall o 1922 hyd 1955.
Enghraifft o'r canlynol | papur wythnosol |
---|---|
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Dyddiad cyhoeddi | 4 Chwefror 1893 |
Lleoliad cyhoeddi | Caernarfon |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
- Ar gyfer papur bro ardal Tal-y-bont, gweler Papur Pawb (Tal-y-bont).
Ei olygyddion yn eu tro oedd Daniel Rees, Picton Davies ac Evan Abbott.
Roedd yn cynnwys manion digri, straeon byrion a darnau o nofelau. Cyfranodd yr arlunydd J.R. Lloyd Hughes lawer o'r cartŵnau.
Ysgrifennai rhai o lenorion mwyaf poblogaidd y cyfnod iddo, yn cynnwys T. Gwynn Jones a Dic Tryfan.