Long Meg
Cylch cerrig o'r Oes Efydd ydy Long Meg neu Long Meg a'i Merched (ac weithiau Cylch Cerrig Maughanby. Mae wedi'i lleoli ger Penrith, Cumbria. Dyma'r chweched cylch mwyaf yn y rhan hon o Ogledd-orllewin Ewrop. Mae'n un o 1,300 o gylchoedd tebyg yng ngwledydd Prydain a Llydaw ac yn rhan o draddodiad megalithig a barodd rhwng 3,300 C.C. a 900 C.C. Hynny yw, ar ddiwedd Oes Newydd y Cerrig a'r Oes Efydd Cynnar.
Yr olygfa o'r dwyrain | |
Math | cylch cerrig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Hunsonby |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.7284°N 2.66935°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Mae yma 51 arreg: 27 ohonyn nhw'n parhau'n fertig ac yn sefyll ac ar ffurf ofal sy'n 100m yn ei anterth. Yn wreiddiol, credir y byddai cymaint â 70 carreg. Daw'r enw o un garreg tywodfaen goch, enfawr (3.6m o uchder). Ceir arni enghreifftiau o waith celf wedi'u cerfio arni: gydag esiamplau o farciau "cwpan a soser" (Saesneg: cup and ring"), sbeiral a chylchoedd consentrig.
Dolennau allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan "Ancient Scotland"
- (Saesneg) Gwefan "English Lakes"
- (Saesneg) The Megalithic Portal
- Ffynhonnell o Fapiau ar gyfer Long Meg