Cyfreithiwr a barnwr Americanaidd oedd Louis Dembitz Brandeis (13 Tachwedd 18565 Hydref 1941) a fu'n un o ustusiaid Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau o 1916 i 1939.

Louis Brandeis
Ganwyd13 Tachwedd 1856 Edit this on Wikidata
Louisville Edit this on Wikidata
Bu farw5 Hydref 1941 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg y Gyfraith, Harvard
  • Louisville Male High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethbarnwr, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAssociate Justice of the Supreme Court of the United States Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodAlice Goldmark Brandeis Edit this on Wikidata

Ganed yn Louisville, Kentucky, i fewnfudwyr Iddewig o Brag. Mynychodd yr ysgolion cyhoeddus yn Louisville a'r Annen Realschule yn Dresden, yr Almaen. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Harvard a derbyniodd ei radd, ar flaen ei ddosbarth, ym 1877. Aeth i St. Louis, Missouri, i drin y gyfraith am flwyddyn cyn iddo ymsefydlu yn Boston, lle'r oedd yn gweithio nes iddo gael ei benodi i'r Goruchaf Lys gan yr Arlywydd Woodrow Wilson ym 1916. Brandeis oedd yr Americanwr Iddewig cyntaf i eistedd ar fainc y llys. Ymddiswyddodd o'r llys ar 13 Chwefror 1939, a bu farw yn Washington, D.C. yn 84 oed.[1]

Enwir Prifysgol Brandeis yn Waltham, Massachusetts, ar ei ôl.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Louis Brandeis. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Tachwedd 2020.

Darllen pellach golygu

  • Jeffrey Rosen, Louis D. Brandeis: American Prophet (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2016).