Louis Mahoney
Actor Prydeinig a anwyd yn y Gambia oedd Louis Felix Danner Mahoney (8 Medi 1938 – 28 Mehefin 2020[1]). Gwnaeth ei gartref yn Hampstead, Llundain. Roedd yn ymgyrchydd gwrth-hiliaeth ac wedi ymgyrchu am amser hir dros gydraddoldeb hiliol o fewn y byd actio. Cynrychiolodd aelodau Affricanaidd-Asiaidd ar gyngor yr undeb actorion, Equity, gan ddod yn Is-lywydd rhwng 1994 a 1996.[2]
Louis Mahoney | |
---|---|
Ganwyd | 8 Medi 1938 Y Gambia |
Bu farw | 28 Mehefin 2020 Llundain |
Dinasyddiaeth | Y Gambia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu |
Gyrfa
golyguGaned Mahoney yn Y Gambia ym 1938. Ar ddiwedd y 1950au ymfudodd i Loegr, yn wreiddiol i astudio i fod yn feddyg, ond cefnodd ar ei uchelgais ar gyfer gyrfa feddygol i ddod yn fyfyriwr ysgol ddrama yn y 1970au.[2][3]
Cafodd ei weld gan amlaf ar y teledu mewn cyfresi fel: Danger Man, Dixon of Dock Green, Z-Cars, The Troubleshooters, Menace, Special Branch, Doctor Who (yn y straeon Frontier in Space, Planet of Evil a Blink), Quiller, Fawlty Towers (fel Dr Finn yn The Germans, 1975), The Professionals (fel Dr Henry yn y bennod Klansmen, na ddarlledwyd erioed ar deledu daearol yn y DU), Miss Marple, Yes, Prime Minister, Bergerac, The Bill, Casualty, Holby City a Sea of Souls.
Roedd ei ffilmiau yn cynnwys The Plague of the Zombies (1966), Omen III: The Final Conflict (1981), Rise and Fall of Idi Amin (1981), White Mischief (1987), Cry Freedom (1987), Shooting Fish (1997), Wondrous Oblivion (2003) a Shooting Dogs (2005).
Fe ymddangosodd yn rhaglen ddogfen Channel 4 Random (2011) ac yn nrama BBC Three Being Human (2012) fel Leo, bleidd-ddyn oedrannus ar farw.
Roedd ei ymddangosiad teledu olaf ar y chwaer-gyfres i Tracy Beaker ar CBBC, The Dumping Ground, yn chwarae Henry Lawrence, taid Charlie Morris (Emily Burnett).
Bu farw ar 28 Mehefin 2020, yn 81 oed.
Gwaith ymgyrchu
golyguRoedd Mahoney yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb hiliol o fewn y byd actio, fel aelod o'r Pwyllgor Affro-Asiaidd Equity (a elwid gynt yn Bwyllgor yr Actorion Lliwiedig nes iddo ef ei ailenwi). Sefydlodd Performers Against Racism i amddiffyn polisi Equity ar Dde Affrica,[2] a cyd-sefydlodd, gyda Mike Phillips, y Black Theatre Workshop ym 1976.
Ffilmyddiaeth
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1964 | Guns at Batasi | Milwr | Heb gydnabyddiaeth |
1965 | Curse of Simba | Arbenigwr o Affrica | |
1966 | The Plague of the Zombies | Gwas Lliw | |
1967 | Prehistoric Women | Prif Fachgen | |
1970 | Praise Marx and Pass the Ammunition | Julius | |
1973 | Live and Let Die | Fillet of Soul Patron (Efrog Newydd) | Heb gydnabyddiaeth |
Doctor Who | Newyddiadurwr | 2 bennod, Frontier in Space | |
1974 | Whatever Happened to the Likely Lads? | Frank | 1 bennod, "In Harm's Way" |
1975 | Doctor Who | Ponti | 2 bennod, Planet of Evil |
Fawlty Towers | Doctor Finn | 1 bennod; Yr Almaenwyr | |
1981 | Omen III: The Final Conflict | Brawd Paulo | |
Rise and Fall of Idi Amin | Ymladdwr rhyddid Ofumbi | ||
1984 | Sheena | Hynaf 1 | |
1987 | Cry Freedom | Swyddog llywodraeth Lesotho | |
White Mischief | Abdullah | ||
1997 | Shooting Fish | Ynad | |
2003 | Wondrous Oblivion | Johnson | |
2005 | Shooting Dogs | Sibomana | |
Holby City | Raymond Opoku | 1 bennod | |
2007 | Doctor Who | Hen Billy | 1 bennod; Blink |
2013 | Captain Phillips | Criw Maersk Alabama | |
2016 | Holby City | Thomas Law | 1 bennod |
2018 | National Theatre Live: Allelujah! | Neville | |
The Dumping Ground | Henry Lawrence |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Louis Mahoney: Trailblazing actor and activist dies at 81 (en) , BBC News, 30 Mehefin 2020.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Louis Mahoney", Forward to Freedom: A history of the British Anti-Apartheid Movement 1959–1994, 2013.
- ↑ Louis Mahoney Biography at IMDb.
Dolenni allanol
golygu- Louis Mahoney ar wefan Internet Movie Database