Lucrezia Borgia
Merch Pab Alecsander VI a Vannozza dei Cattanei oedd Lucrezia Borgia (Ynganiad Eidaleg: [luˈkrɛttsja ˈbɔrdʒa]; 18 Ebrill 1480 – 24 Mehefin 1519). Ymhlith ei brodyr roedd Cesare Borgia, Giovanni Borgia, a Gioffre Borgia.[1] Trefnodd ei thad nifer o briodasau ar ei chyfer, gan ei thrin fel gwerin gwyddbwyll er mwyn gwella sefyllfa wleidyddol a chyfoeth y teulu Borgia. Priododd Giovanni Sforza (m. 1493; ann. 1497), Alfonso o Aragon, Dug Bisceglie (1481–1500; pr. 1498–1500) ac Alfonso d'Este (pr. 1502–tan ei marwolaeth hi). Dywedir fod Alfonso'n fab anghyfreithiol i Frenin Napoli ac i'w brawd Cesare ei ladd.[2][3] Gwnaed sawl ffilm a nofel ar y teulu Maciofelaidd hwn, gan gynnwys y ddogfen Il Principe gan Niccolò Machiavelli, ble gwelwyd Lucrezia fel femme fatale, rôl y chwaraewyd hi ynddo mewn llawer o weithiau celf, nofelau a ffilmiau, dros y blynyddoedd. Yn 1833 ysgrifennodd Victor Hugo ddrama lwyfan amdani ac yng Ngorffennaf 2011 rhyddhaodd Netflix gyfres deledu o'r enw Borgia; roedd y gyfres yn serenu Isolda Dychauk fel Lucrezia a John Doman fel ei thad.
-
Lucrezia Borgia
-
Lucrezia Borgia gan Heilige Katharina
-
Amgueddfa'r Ffindir
-
c. 1520
-
Llofnod
-
Y teulu; 1863
Lucrezia Borgia | |
---|---|
Ganwyd | 18 Ebrill 1480 Subiaco |
Bu farw | 24 Mehefin 1519 Ferrara |
Galwedigaeth | cymar, llywodraethwr |
Tad | Pab Alecsander VI |
Mam | Vannozza dei Cattanei |
Priod | Alfonso I d'Este, Alfonso of Aragon, Giovanni Sforza |
Plant | Ercole II d'Este, Duke of Ferrara, Rodrigo of Aragon, Ippolito II d'Este, Francesco d'Este, Isabella Maria d'Este, Alessandro d'Este, Eleonora d’Este, Giovanni Borgia, Alessandro d'Este |
Llinach | teulu Borgia |
llofnod | |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bellonci, Maria (2000). Lucrezia Borgia. London: Phoenix Press. t. 23. ISBN 1-84212-616-4.
- ↑ Bellonci, Maria (2003). Lucrezia Borgia. Milan: Mondadori. tt. 121–122. ISBN 978-88-04-45101-3.
- ↑ Bellonci, Maria (2003). Lucrezia Borgia. Milan: Mondadori. tt. 139–141. ISBN 978-88-04-45101-3.