Isolda Dychauk
Actores o'r Almaen ydy Isolda Dychauk (ganwyd 4 Chwefror 1993) sydd a'i theulu'n tarddu o Rwsia lle'i ganed.[1]
Isolda Dychauk | |
---|---|
Ganwyd | 4 Chwefror 1993 Surgut |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm |
Ganwyd Isolda Dychauk yn 1993 yn Surgut (Gorllewin Siberia) cyn i'r teulu symud i Berlin yn 2002. Mamiaith Isolda yw Rwsieg ac mae'n siarad Almaeneg yn rhugl a hynny heb unrhyw acen Rwsieg. Yn 2003 cychwynodd mewn coleg actio yn Berlin. Gwnaeth ffilm fechan yn 2004, sef Gimme your shoes, gydag Anika Wangard yn cyfarwyddo, ac a ddangoswyd am y tro cyntaf yn Hydref 2009 yng Ngwyl Ffilmiau Fienna.
Yn y gyfres deledu Borgia mae'n chwarae rhan Lucrezia Borgia, merch Rodrigo Borgia (a ddaeth yn ddiweddarach yn Pab Alecsander VI) a chwaraeir gan John Doman. Saethwyd y gyfres gyntaf yn Hydref 2010 hyd at Mai 2011 yn Stiwdios Barrandov, Prag, y Weriniaeth Tsiec. Darlledwyd y drydedd gyfres yn Hydref 2014.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Portrait: Isolda Dychauk" (yn German). zdf.de. 9 Hydref 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-16. Cyrchwyd 2016-06-18.CS1 maint: unrecognized language (link)
Dolenni allanol
golygu- Isolda Dychauk ar wefan Internet Movie Database
- Isolda Dychauk Archifwyd 2011-11-22 yn y Peiriant Wayback yn asiantaeth Christel Vonk Berlin