Luigi Pulci
Bardd Eidalaidd yn yr iaith Eidaleg oedd Luigi Pulci (15 Awst 1432 – 11 Tachwedd 1484) sy'n nodedig am ei arwrgerdd ddifrif-ddigrif Morgante (1483), un o'r enghreifftiau gwychaf o farddoniaeth epig yn holl lenyddiaeth y Dadeni.
Luigi Pulci | |
---|---|
Ganwyd | 15 Awst 1432 Fflorens |
Bu farw | 11 Tachwedd 1484 Padova |
Galwedigaeth | bardd, diplomydd, llenor |
Bywgraffiad
golyguGaned Luigi Pulci ar 15 Awst 1432 i deulu llenyddol yn Fflorens. Er gwaethaf achau bonheddig ei deulu, tlodion oeddynt a gwaethygodd eu sefyllfa yn sgil marwolaeth ei dad ym 1451. Gweithiodd Luigi yn glerc ac yn llyfrifwr er mwyn cynnal ei fam a'i frodyr a chwiorydd. Priododd Luigi â Lucrezia degli Albizzi ym 1453 a chawsant bedwar mab.[1]
Cyflwynwyd Pulci i deulu'r Medici ym 1461, ac enillodd nawdd Cosimo de' Medici, Arglwydd Fflorens, am ei ffraethineb a'i ysgrifeniadau addawol. Magodd gyfeillgarwch agos â Lorenzo, ŵyr hynaf Cosimo, a daeth i adnabod dynion ifainc eraill yng nghylch Lorenzo, gan gynnwys yr ysgolhaig a bardd Angelo Poliziano. Bu Pulci hefyd yn ffraeo ag ambell un o wŷr llenyddol Fflorens, yn enwedig yr offeiriad Matteo Franco. Ysgrifennai'r ddau fardd gyfres o sonedau chwyrn yn ymosod ar ei gilydd ym 1474–5, er yr oeddynt ar un pryd yn gyfeillion. Gelyn arall oedd yr athronydd neo-Blatonaidd Marsilio Ficino, a oedd yn anghytuno â Pulci ar bynciau hud a lledrith.[1]
Tua 1461, ar gais Lucrezia Tornabuoni, mam Lorenzo, cychwynnodd Pulci ar ei gerdd Morgante. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o'r gerdd ym 1478, a chanddi 23 o ganiadau. Derbyniodd ymateb ffyrnig gan yr Academi Blatonaidd yn Fflorens. Cyhoeddwyd y gerdd yn llawn, dan y teitl Il Morgante maggiore a chyda 28 o ganiadau, yn Fflorens ym 1483. Addasiad ydyw o ddwy gerdd o'r 14g yn nhraddodiad Mater Ffrainc: Orlando, sydd yn traddodi anturiaethau Orlando (Rolant) yn y dwyrain, a La Spagna, hanes rhyfel Siarlymaen yn Sbaen, marwolaeth Orlando ym Mrwydr Ronsyfal, a chosb y bradwr Gano. Ffug-arwrgerdd ydyw sydd yn barodi ar farddoniaeth sifalraidd yr Oesoedd Canol ac yn portreadu'r cawr Morgante yn arwr y chwedl.
Wedi i Lorenzo etifeddu arglwyddiaeth Fflorens ym 1469, penodwyd Pulci i arwain sawl cenhadaeth ddiplomyddol. Er ei weithgareddau llenyddol a diplomyddol, ni lwyddodd Pulci i wella'i safle ariannol. Methodd ei frodyr, Luca a Bernardo, roi trefn ar gyllid y teulu, a bu farw Luca mewn carchar dyledwyr ym 1470. Mae'n bosib i Pulci golli ffafr Lorenzo oherwydd y ffrae rhyngddo a Matteo Franco.[1] Tua 38 oed ymunodd Pulci â byddin y condottiere Roberto Sanseverino, a bu'n filwr am dâl am weddill ei oes. Ar ei ffordd i Fenis yng nghwmni Sanseverino bu farw Luigi Pulci ar 11 Tachwedd 1484 o afiechyd yn Padova, Gweriniaeth Fenis, yn 52 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Luigi Pulci" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 4 Medi 2020.
- ↑ (Saesneg) Luigi Pulci. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mehefin 2019.
Darllen pellach
golygu- Lewis D. Einstein, Luigi Pulci and the Morgante Maggiore (1902).
- Giacomo Grillo, Two Aspects of Chivalry: Pulci and Boiardo (1942).
- John Raymond Shulters, Luigi Pulci and the Animal Kingdom (1920).