Ymladdwyd Brwydr Ronsyfal (Ffrangeg: Roncevaux, Sbaeneg: Roncesvalles) ym Mwlch Ronsyfal, ar y ffin rhwng Sbaen a Ffrainc, ar 15 Awst 778, rhwng rhan ôl byddin Siarlymaen, dan Rolant, arglwydd Mers Llydaw, a llu y Basgiaid.

Brwydr Ronsyfal
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad15 Awst 778 Edit this on Wikidata
Rhan oExpedition of Charlemagne of 778 Edit this on Wikidata
LleoliadBwlch Ronsyfal Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Marwolaeth Rolant gan Jean Fouquet (c. 1455–1460).
Brwydr Ronsyfal yn Llyfr Coch Hergest a gofnodwyd ar ddiwedd y 14g

Yng ngwanwyn 778, roedd Siarlymaen wedi bod yn ymgyrchu yn Sbaen. Wrth ddychwelyd i Ffrainc, ymosodwyd ar ran ôl y fyddin gan y Basgiaid. Gorchfygwyd y Ffranciaid, a lladdwyd Rolant yn yr ymladd. Anfarwolwyd y digwyddiad yn y Chanson de Roland, ond newidiwyd yr hanes; yn y Chanson, bellach y Mwslimiaid yw'r gelyn.

Cyfeirir at y frwydr gan Iorwerth C. Peate (ganwyd 1901) yn ei gerdd Ronsyfál sy'n cynnwys y cwpledi:

Ni ddaw o'r niwl un milwr tal,
o'r hen oes fud, i Ronsyfál.

a:

ac aros nes i'r gwyll fy nal,
a'r nos a fu yn Ronsyfál.

Mae Can Roland, sy'n adrodd hanes Rolant a Brwydr Ronsyfal yn cael ei gynnwys yn llyfr T Rowland Hughes Storïau Mawr y Byd[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hughes, T Rowland (1936). "Cân Roland" . Storïau Mawr y Byd. Gwasg Aberystwyth.