Luis Fernando Lopez

prif gymeriad Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony

Luis Fernando Lopez yw prif gymeriad y gêm fideo Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony (TBoGT) [1] gêm yn y gyfres Grand Theft Auto gan gwmni Rockstar Games. Mae hefyd yn gwneud ymddangosiad cameo mewn gemau eraill yn y gyfres - Grand Theft Auto IV (GTA IV) a Grand Theft Auto: The Lost and Damned (TLaD). Mae'r cymeriad yn cael ei leisio gan Mario D'Leon.[2]

Luis Fernando Lopez
GanwydLiberty City Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethbouncer, corff-warchodwr, troseddwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Mae Luis yn ŵr sydd a'i gwreiddiau yn Dominica. Ar adeg y gêm (2009) mae o'n 26 mlwydd oed, byddai'n rhoi blwyddyn geni iddo o tua 1983. Fe'i ganwyd ac fe'i magwyd ar Frankfort Avenue, Northwood yn Algonquin, Liberty City. Enw ei fam yw Adriana Yanira Lopez, dydy enw ei dad ddim yn cael ei grybwyll, ond dwedir yn ystod y gêm ei fod yn gyn aelod o Forlu UDA a gefnodd ar y teulu pan oedd Luis yn blentyn. Mae gan Luis brawd hŷn, Ernesto Lopez, a chwaer iau, Leta Lopez-Wilkinson. Cafodd ei fagu gan ei fam, a oedd hefyd â rôl ym magwraeth ffrindiau gorau Luis, Armando Torres a Henrique Bardas. Fe’i magwyd hefyd gydag Oscar Gomez ac Alonso Gomez, Teddy Benavidez a Willy Valerio, plant hŷn o tua thair blynedd, a arweiniodd Luis a'i gyfeillion i ddelio mewn cyffuriau.[3]

Pan oedd Luis yn 17 oed cafodd ei ddanfon i uned troseddwyr ifanc ar ôl anafu athro gyda gŵn, roedd yr athro wedi cyffwrdd ei chwaer mewn modd anweddus. Yn fuan wedi iddo gael ei ryddhau o'r uned ieuenctid cafodd ei garcharu am ddwy flynedd am ddwyn ceir. Erbyn iddo gael ei ryddhau o'r carchar roedd ei frawd a'i chwaer wedi ymadael â Liberty City a daeth ei fam yn llwyr ddibynnol arno am ei anghenion ariannol.[4]

Yn 2005 cafodd swydd reolaidd fel bownser yng Nghlwb Nos Hercules, clwb oedd yn eiddo i Anthony "Gay Tony" Prince. Yn fuan iawn magwyd cyfeillgarwch rhwng y bownser a'i fos ac ehangodd rôl Luis i ddod yn warchodwr corff personol a gŵr llaw aswy Gay Tony. Bu hefyd yn chware rhan yn rheolaeth clybiau Tony.

Ymddangosiad golygu

Dyn Affro-Latino cyhyrog yw Luis. Mae ganddo lygaid brown, gwallt du, mwstas a sofl ar ei ên. Mae'n gwisgo clustlws yn ei glust chwith ac mae ganddo datŵ o'i enw ei hun ar ochr dde ei wddf. Fel arfer mae'n gwisgo siaced du a gwyn gyda jîns glas ac esgidiau tenis gwyn. Pan fydd yn gweithio yn y clwb mae'n gwisgo siwt ddeuddarn llwyd a chrys gwyn. Mae'n siarad ag acen Latino Efrog Newydd ac yn aml mae'n cynnwys geiriau Sbaeneg yn ei Saesneg.

Pan aeth i'r carchar gyntaf roedd yn fachgen tenau, esgyrnog, dechreuodd magu cyhyrau trwy ymarfer corff er mwyn bod yn ddigon cryf i amddiffyn ei hun rhag trais ei gyd garcharorion.

Mae Luis yn gymeriad cymharol ddiymhongar. Anaml bydd yn arddangos ei emosiynau neu ei deimladau. Er gwaethaf hyn, nid oes ganddo ofn dangos dicter a sefyll i fyny i bobl os yw'n ei ystyried yn angenrheidiol. Mae ei bersonoliaeth bwyllog yn ei wneud yn atalfa berffaith i natur fyrbwyll Tony.

Oherwydd ei rôl fel bownser clwb nos, mae gan Luis gyfle i gymdeithasu a hyd yn oed gael rhyw achlysurol gyda menywod enwog, golygus. Mae sawl person yn y gêm yn sôn bod pidyn bach gan Luis. Daw Luis yn ddig pan fydd maint ei bidyn yn cael ei drafod.[5]

Luis yn GTA IV a TLaD golygu

Llinell gyswllt rhwng y tair pennod o gyfres Grand Theft Auto IV yw hanes gwerth $2,000,000 o ddiemwntau a ddygwyd oddi wrth Ray Bulgarin, un o arweinwyr maffia'r Rwsiaid. Dygwyd y diemwntau gan gogydd. Yn y dasg Frosting on the Cake yn The Balad of Gay Tony mae Luis yn mynd gyda Gay Tony ac Evan Moss, cariad Tony, i geisio prynu'r diemwntau gan y cogydd. Mae Johnny Klebitz, prif gymeriad The Lost and Damned [6] yn cyrraedd gyda'i gang o feicwyr ac yn dwyn y gemau ar ran Ray Boccino o faffia'r Eidal. Yn y dasg Diamonds in the RoughynTLaD mae'r hanes yma'n cael ei adrodd o safbwynt Johnny gyda Luis yn ymddangos yn y stori. Yn y tasgau Museum Piece yn GTA IV a Collectors Item yn TLaD mae Ray Boccino yn danfon Niko Bellic, prif gymeriad GTA IV a Johnny i werthu'r diemwntau i'r deliwr gemau Isaac Roth. Yn y dasg Not so Fast mae hanes Luis yn torri ar draws y dêl prynu a gwerthu'r gemau ac yn eu dwyn nhw'n ôl i Tony. Mae arwyr y tair gêm i'w gweld ym mhob un o'r tasgau yma.[7]

Yn y tasgau Diamonds Are a Girl's Best Friend (GTA IV) a Ladies Half Price (TBoGT) - mae Niko Bellic a Packie McReary wedi herwgipio Gracie Ancelotti, merch Giovanni Ancelotti arweinydd teulu o maffia'r Eidal, ac yn gofyn am y diemwntau er mwyn ei rhyddid. Mae Giovanni Ancelotti yn bygwth lladd Luis a Tony os nad ydynt yn achub ei ferch, felly maent yn mynd a'r gemau i Niko a Packie yn gyfnewid am Gracie. Yn ystod y cyfnewid mae Ray Bulgarin a'i ddynion yn atal Niko a Packie rhag cael y diemwntau. Tra bod Luis, Gracie, a Tony yn dianc ar gwch, mae un o ddynion Bulgarin yn gollwng y diemwntau ar ddamwain i gefn lori bins sy'n mynd heibio ac mae pawb yn eu colli.[8]

The Balad of Gay Tony golygu

Prif erthygl: Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony

Luis Fernando Lopez yw brif gymeriad y gêm. Mae'n cyn aelod o'r cartel cyffuriau Dominicaidd.[9] ac yn corff-warchodwr personol yr entrepreneur cyfunrywiol, Anthony Prince sy'n cael ei adnabod fel "Gay Tony".[10] Mae Tony yn berchen ar ddau glwb nos [11] fwyaf poblogaidd Liberty City, y Maisonette 9 a'r Hercules mae'r ddau glwb yn hoff gyrchfan i sêr y ddinas. Mae gan Tony problem cyffuriau difrifol ac mae ei ddefnydd o gyffuriau wedi ei adel ef a'i fusnesau mewn dyled fawr. Prif thema stori'r gêm yw helyntion Luis wrth iddo warchod Tony rhag cael ei niweidio gan ei ddyledwyr ac amddiffyn busnesau Tony gan rai sydd yn gweld cyfle i'w caffael oherwydd ei sefyllfa ariannol fregus.

Cyfeiriadau golygu

  1. "GRAND THEFT AUTO IV - The Ballad of Gay Tony - Characters: Luis Lopez, Gay Tony". www.gta4.net. Cyrchwyd 2020-12-11.
  2. "Mario D'Leon". IMDb. Cyrchwyd 2020-12-11.
  3. "Luis Fernando Lopez - Grand Theft Wiki, the GTA wiki". www.grandtheftwiki.com. Cyrchwyd 2020-12-11.
  4. "Luis Fernando Lopez". Rockstar Games. Cyrchwyd 2020-12-11.
  5. "Luis Fernando Lopez". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-12-11.
  6. "Johnny Klebitz". Grand Theft Auto Wiki. Cyrchwyd 2020-12-11.
  7. "Diamonds". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-12-11.
  8. "Ladies Half Price". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-12-11.
  9. "Grand Theft Auto: 10 Things You Didn't Know About Luis Lopez". TheGamer. 2020-09-01. Cyrchwyd 2020-12-05.
  10. "Some queer characters from the world of video games". www.telegraphindia.com. Cyrchwyd 2020-12-05.
  11. McWhertor, Michael (2018-07-19). "GTA Online update brings back 'Gay Tony,' lets you run a nightclub". Polygon. Cyrchwyd 2020-12-05.