Aelod o lu milwrol sydd yn ymladd ar y tir ac ar y môr yw môr-filwr. Uned o fôr-filwyr yw morlu neu gorfflu môr-filwyr. Ystyrir y môr-filwr yn aml yn fath o droedfilwr.

Môr-filwyr Brenhinol yn ymarfer byrddio llong wrth baratoi am ymgyrch yn erbyn môr-ladron yn y Môr Coch.

Bu môr-filwyr mewn rhyw modd yn oes yr Henfyd. Sonia Herodotus a Thucydides am yr epibatai yn llongau'r Groegiaid, a disgrifiodd Polybius categori o filwyr Rhufeinig, milites classiarii ("milwyr y llynges"), oedd yn gwasanaethu ar longau rhyfel. Yn ystod yr Oesoedd Canol yn Ewrop rhoddwyd milwyr ar longau'n aml i gefnogi'r morwyr. Sefydlwyd y morlu modern cyntaf ym 1664 gan y Prydeinwyr, a elwir heddiw yn y Môr-filwyr Brenhinol, a ffurfiwyd y Korps Mariniers, Corfflu Môr-filwyr yr Iseldiroedd ym 1665.[1] Corfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau, a sefydlwyd ym 1775, yw'r morlu mwyaf yn y byd heddiw.[2] Mae nifer o wledydd wedi sefydlu morluoedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac heddiw mae gan ddros 40 o wledydd unedau o fôr-filwyr.[3]

Mewn rhai gwledydd mae'r môr-filwyr yn rhan o'r fyddin, mewn eraill yn rhan o'r llynges, ac mewn eraill yn llu ar wahân.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) marine. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.
  2. (Saesneg) World's Largest Marine Corps. GlobalSecurity.org. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.
  3. (Saesneg) Marine Corps Introduction. GlobalSecurity.org. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.