Mae Jonathan Klebitz a elwir hefyd yn Johnny K yn gymeriad ffuglennol o'r gyfres gemau fideo Grand Theft Auto. Ef yw'r prif gymeriad yn yr ehangiad i Grand Theft Auto IV - Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned. Roedd Johnny eisoes wedi gwneud dau ymddangosiad fel cymeriad eilaidd yn GTA IV yn ystod y tasgau Blow your cover a Museum Pieces. Mae'n ymddangos fel man gymeriad yn yr ail ehangiad i GTA IV - Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony ac ymddangosodd eto yn Grand Theft Auto V.[1] Mae'r cymeriad yn cael ei leisio gan yr actor Scott Hill.[2]

Johnny Klebitz
Ganwyd1974 Edit this on Wikidata
Acter Edit this on Wikidata
Bu farw2013 Edit this on Wikidata
Blaine County Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethgangster Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Yn gemau GTA IV mae Johnny yn 34 mlwydd oed. Gan fod y gemau wedi eu gosod yn 2008 mae hynny'n rhoi blwyddyn geni'r cymeriad tua 1974. Mae'n dod o gefndir Iddewig,[3] er mae'n dweud nad yw'n dilyn ei grefydd mwyach. Cafodd ei eni yn Alderney tref daleithiol sy'n agos i Liberty City. Mae ganddo frawd, Michael, sy'n gwasanaethu yn y fyddin yn Iraq.

Mae Johnny yn is-lywydd cyfrinfa Liberty City o The Lost MC, clwb beicwyr modur sydd wedi ei seilio ar y clwb beicwyr go iawn Hells Angles. Ar ddechrau'r gêm mae Johnny yn gweithio fel y llywydd gweithredol gan fod llywydd y gyfrinfa, Billy Gray, yn cael ei drin am gaethiwed i gyffuriau o dan orchymyn llys. Mae'r clwb beicwyr yn rhan o isfyd troseddol Liberty City, yn ymwneud â gwerthu cyffuriau, lladrata a thrais.[4]

O fasdata'r heddlu, sydd ar gael i'w ddarllen yn GTA IV mae gan hanes troseddol difrifol. Cafodd ei arestio am ddwyn modur pan oedd yn 17 ac am ymosod yn gorfforol pan oedd yn 19 oed. Blwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei garcharu am ddynladdiad. Wedi ei ryddhau tua 2003 cafodd ei ddychwelyd i'r carchar am gyfnod o bedair blynedd am dorri amodau ei barôl.

Ers y 1990au bu Johnny yn canlyn Ashley Butler, ond arweiniodd ei dibyniaeth ar gyffuriau iddi dwyllo arno gyda Billy Gray. Ar ôl bod efo Billy roedd yn cael ei thrin fel teclyn rhyw i holl aelodau'r Lost MC a bu'n puteinio ei hun i unrhyw un arall byddai'n rhoi cyffuriau iddi.

Nodweddion corfforol

golygu

Mae gan Johnny edrychiad beiciwr nodweddiadol sydd bob amser yn gwisgo siaced ledr du gyda symbol ei glwb Beiciau Modur, "The Lost", arno. Mae ei gan ei siaced sawl symbol arall arno hefyd, symbolau sy'n nodi "graddau" i gynrychioli ei rôl yn y gang. Datgelodd Rockstar fod y "graddau" hyn ar y siacedi Lost yn cynrychioli:

  • Tagiau siâp eryr i nod y profiadau rhywiol amrywiol y mae'r aelod wedi mwynhau gan gynnwys gwahanol arddulliau o gael rhyw.
  • Mae'r tag "Teyrngarwch" yn golygu bod aelod o'r Lost wedi bod yn y carchar ond wedi gwrthododd dystiolaethu yn erbyn y gang. Mae gan Johnny yr holl fathau hyn o "raddau" ar ei siaced.
  • Mae tag y penglog yn arwydd bod yr aelod wedi lladd rhywun ar ran y clwb.

Mae gan Johnny nifer o bob un o'r tagiau ar ei wisg. Yn GTA 5 dywedir bod aelodau'r Lost yn cael tatŵ newydd ar gyfer pob person maen nhw'n ei ladd. Mae gan Johnny lawer o datŵs ar hyd a lled ei gorff.

Mae ei wyneb wedi'i anffurfio gan sawl craith sy'n rhoi ymddangosiad penderfynol bygythiol iddo. Yn ogystal mae'r creithiau yn dyst i'r ymladd a'r gwrthdaro dirifedi rhwng gangiau y bu'n rhan ohonynt yn ystod ei fywyd, a'r damweiniau beic modur amrywiol y goroesodd. Pan mae'n chwarae dartiau yn y gêm mae Johnny yn dweud wrth ei ffrindiau bod yn rhaid iddo ddefnyddio ei lygad chwith i weld, gan ei alw'n ei "lygad da". Mae hyn yn awgrymu nad yw'n gweld yn dda neu nad yw'n gweld o gwbl o'r llygad de. Mae ganddo greithiau mawr uwchben yr ael dde sy'n gorffen yn ar ymyl y llygad.

Mae gan lawer o gymeriadau'r gêm gwynion am hylendid corfforol gwael Johnny. Nid yw byth yn newid ei ddillad yn y gêm, bob amser yn gwisgo'r un dillad eithaf hen a blêr. Yn The Lost and Damned mae'n ymddangos yn dal iawn ac yn olygus yn gorfforol, gan ddweud ei fod yn pwyso 105 kg. Yn GTA 4, fodd bynnag, roedd Johnny yn edrych yn fwy gwelw ei wedd, gyda thatŵs mwy amlwg Yn GTA 5 mae ganddo gorff mwy main a mwy treuliedig, yn ôl pob tebyg oherwydd y cyffuriau mae'n camddefnyddio'n barhaus.

 
Beicwyr TL&D

Mae Johnny ychydig yn arafach wrth redeg na Niko Bellic a Luis Lopez, dau brif gymeriad arall GTA 4, ond o'i gymharu â nhw mae'n achosi ychydig mwy o ddifrod wrth ymladd gyda'i ddyrnau ac yn cwympo'n llawer llai aml o feic modur. Hefyd yn wahanol iddyn nhw, ni fydd Johnny byth yn gwisgo helmed wrth fynd ar feic modur.

Personoliaeth

golygu

Mae Johnny yn wylliad ac yn feiciwr modur Americanaidd, ac o'r herwydd mae yn erbyn cydymffurfiaeth ac yn argyhoeddedig o ragoriaeth y cynhyrchion a wneir yn UDA. Mae'n dirmygu'r heddlu am eu llygredd ac nid yw'n oedi cyn arddangos ymddygiad cwerylgar neu wrthryfelgar yn aml tuag at unrhyw un sy'n ei amharchu. Fodd bynnag, ef hefyd yw'r meddyliwr o fewn y gang Y Lost. Enillodd barch y beicwyr eraill sy'n arwain ato gael ei ddyrchafu Is-lywydd cyntaf ac yna'n Llywydd y clwb. Mae'n un sy'n meddwl am fuddiannau’r gang gyfan ac nid buddiannau ei hun yn unig. Mae Johnny pob amser yn ceisio cynnal y cydbwysedd bregus sy'n bodoli rhwng y Lost a chlwb beicwyr arall yn y ddinas, yr Angels of Death. Ar ddechrau'r gêm mae wedi llwyddo i gael cadoediad rhwng y ddau glwb sy'n atal eu gwrthdaro treisgar. D

Mae Johnny hefyd yn ffyddlon iawn i'w gang a'i ffrindiau, yn enwedig i'w ffrindiau gorau Terry, Clay a Jim, ac ar ôl marwolaeth Jim bydd yn parhau i anfon arian at ei wraig a'i fab.

Er bod gan Johnny dueddiad at drais, mae hefyd yn eithaf myfyriol gan feddwl nad oes angen cyflawni llofruddiaethau heb reswm neu am achosion dibwys. Mae'n credu bod hyn yn denu sylw'r heddlu yn ddiangen. Mae'n well gan Johnny ymladd a ffrwgwd hen-ffasiwn gyda chlybiau a chyllyll yn hytrach na lladd gyda phistolau a gynnau peiriant.

Yn wahanol i'r beicwyr eraill, nid yw Johnny yn dangos dibyniaeth fawr ar gyffuriau. Mae'n yn tueddu yn bennaf at gymryd marijuana yn hytrach na chyffuriau trymach fel heroin, cocên neu fethamffetamin, er mai'r olaf yw'r cyffur a gynhyrchir gan ei gang ac sy'n cael ei gamddefnyddio yn bennaf gan aelodau'r Lost. Yn GTA 5 ymddengys ei fod wedi dod yn i gaeth i fethamffetamin a bod y cyffur wedi effeithio yn ddrwg arno. Yn ôl pob tebyg wedi'i achosi gan ei gariad, Ashley Butler.

Sgiliau

golygu

yn The Lost and Damned, mae Johnny yn gallu dibynnu ar allu corfforol (mae bron yn 2 fetr o daldra ac yn pwyso tua 105 kg fel y nodwyd ganddo ef ei hun). Mae yn gryf iawn wrth ymladd lawlaw yn ogystal â gwybod amryw o symudiadau cic focsio. Gan ei fod yn feiciwr, mae hefyd yn fedrus iawn wrth yrru beiciau modur. Mae Johnny hefyd yn saethwr medrus sy'n gallu saethu wrth reidio beic modur heb golli ei gydbwysedd. Yn GTA 5, ar y llaw arall, ymddengys iddo newid llawer oherwydd ei gaethiwed diweddar i fethamffetaminau sydd wedi ei arwain at ddirywiad sy'n ei wneud yn amlwg yn deneuach ac yn wannach. Nid yw mwyach y beiciwr cryf a bygythiol a fu.

The Lost and Damned ( 2008)

golygu

Dychweliad Billy

golygu
 
Billy Gray

Mae Billy Gray llywydd y lost yn cael ei ryddhau o gyfnod o driniaeth orfodol am gam ddefnyddio cyffuriau. Tra bu'n derbyn ei driniaeth bu Johnny yn gweithredu fel y llywydd gweithredol yn ei le. Pan ddaw'r driniaeth i ben mae Billy yn ail afael ar arweinyddiaeth y clwb. Dydy Billy ddim yn hapus efo rai o'r newidiadau gwnaeth Johnny yn ei absenoldeb. Mae'n arbennig o gandryll bod Johnny wedi rhoi beic a adeiladwyd yn arbennig i Billy gan aelodau'r clwb i gang arall y beicwyr, Angles of Death, i selio cadoediad rhyngddynt. Mae Billy yn mynnu dychwelyd ei feic ac mae'r cadoediad yn dod i ben, mae'r ddau gang yn rhyfela ac mae Billy yn cael ei feic yn ôl. Mae'r digwyddiad yn cychwyn rhwyg rhwng Billy a Johnny sy'n cynyddu trwy gydol y gêm.[5]

Marwolaeth Jason

golygu

Yn GTA IV mae aelod o faffia Rwsia, Mikhail Faustin, yn Danfon Niko Bellic i ladd Jason Michaels, sy'n canlyn Anna Faustin ei ferch. Roedd Mr Faustin yn credu bo ei ferch yn rhy dda i ryw garidỳm o feiciwr. Jason oedd "gorfodwr" y Lost. (Gorfodwr yw aelod o gang sy'n gyfrifol am swyddi budur megis blacmelio, herwgipio, cosbi neu lofruddio.) Mae'r lost yn cael gwybod bod Jason wedi cael ei ladd gan ŵr diarth o Ddwyrain Ewrop. Mae Billy yn penderfynu beio'r Angles am ei lofruddiaeth. Mae o'n arwain y Lost i ddial arnynt trwy losgi cartref eu clwb a dwyn celc o heroin ganddynt. Mae Johnny yn amau mae cael gafael ar yr heroin oedd prif gymhelliad Billy, nid dial am farwolaeth eu cyfaill.[6]

Elizabeta Torres a Tom Stubbs

golygu

Er mwyn gwerthu heroin a gwneud arian mawr i'r gang, mae Billy yn mynd i fusnes gydag Elizabeta "Liz" Torres, deliwr cyffuriau peryglus Puerto Rican o Bohan, a fydd yn ei helpu i werthu heroin i gyswllt Asiaidd o'r enw Charlie. Mae Billy yn rhoi'r dasg o drin y fargen ag Elizabeta i Johnny. Mae Johnny yn gwneud y fargen â gangster stryd sy'n mynd o'r enw Playboy X a gyda throseddwr o Serbia o'r enw Niko Bellic. Mae'r fargen yn mynd yn wael, wrth i'r cyswllt droi allan i fod yn heddwas cudd, ond mae Johnny yn llwyddo i gadw'r heroin a dianc.[7] Yna mae Billy yn gofyn iddo weithio i'r Anrhydeddus Tom Stubbs, dirprwy maer y ddinas, a fydd, yn gyfnewid am rai ffafrau, yn sicrhau nad yw'r heddlu'n mynd i gyrchu'r clwb Lost am heroin. Mae Stubbs yn gwneud i Johnny gyflawni nifer o weithgareddau troseddol ar ei ran (gan gynnwys llofruddio ei ewythr) er mwyn cadw ei swydd anrhydeddus.[8]

Llywyddiaeth y Lost MC

golygu

Mae Billy yn penderfynu ailwerthu’r heroin cafodd ei ddwyn gan yr Angles i’r Triad Tsieineaidd. Yn ddiarwybod i Billy roedd yr Angels wedi dwyn y cyffuriau oddi wrth y Triad i gychwyn. Mae Billy, Brian, Johnny a Jimmy yn mynd i'r man cyfarfod. Mae Johnny a Jimmy yn mynd i gyflawni'r ddêl tra bod Billy a Brian i fod i wylio drostynt rhag ofn bod pethau'n mynd o chwith. Mae'r ddêl yn mynd o chwith mae'r Triad yn cymryd yr heroin ac yn ceisio lladd Johnny a Jim. Mae'r ddau yn llwyddo ffoi gyda'i bywydau. Yn hytrach na cheisio rhoi cymorth i Johnny a Jimmy mae Billy yn ffoi ar ei feic. Cyn iddo ffoi'n bell mae'r heddlu yn ei amgylchu ac yn ei arestio. Mae Billy yn cyhuddo Johnny o'i fradychu i'r heddlu. Mae Johnny yn cyhuddo Billy o wneud trefniant gyda'r Triad i sicrhau ei fod yn cael ei ladd. Mae Jimmy, Terry a Clay yn gofyn i Johnny dod yn llywydd y Lost yn lle Billy. Mae Brian yn credu cyhuddiad Billy bod Johnny wedi eu bradychu ac yn arwain criw o'i gefnogwyr i greu rhwyg yn y gang.[9] Mae Brian yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn cefnogwyr Johnny. Cyn iddo allu dechrau ei ryfel mae Johnny, Jim, Terry a Clay yn dod o hyd i'w guddfan ac yn lladd Brian a'i gefnogwyr.

Liz Torres a Dimitri Rascalov

golygu

Mae Johnny yn parhau i weithio mewn busnes sy'n gysylltiedig â chyffuriau i Elizabeta Torres. Mae Elizabeta hefyd yn cael trafferth gyda'r heddlu a phroblemau gan gangiau cystadleuol. Mae Johnny yn cwrdd ag aelodau o’r criw Beicio Uptown Rider. Mae'n dod yn gyfeillgar gydag un o'r aelodau, Malcolm, troseddwr Affro-Americanaidd.

Mae cyn cariad Johnny, Ashley, yn mynd i drafferthion, oherwydd ei gaethiwed i gyffuriau. Mae'n rhaid i Johnny ei rhyddhau oddi wrth ddelwyr cyffuriau a pimps a oedd yn dal ei wystl. Mae Ashley hefyd yn mynd i ddyled gyda Mafia Rwsiaidd Dimitri Rascalov. I dalu'r ddyled mae'n rhaid i Johnny herwgipio Roman Bellic ar gyfer Rascalov. Mae Rascalov yn credu bydd cefnder Roman, Niko Bellic, yn ceisio ei achub gan roi cyfle i Rascalov lladd Niko. Gan ofyn i Malcolm am help, mae Johnny yn herwgipio Roman ac yn ei drosglwyddo i'r Rwsiaid yn ystâd ddiwydiannol Bohan, ac yn clirio dyled Ashley.[10]

Yn ddiweddarach, cysylltir â Johnny gan asiant Jones o'r FIB (FBI y gêm). Mae Jones yn dweud ei fod yn gwybod bod Johnny yn un o'r rhai wnaeth ceisio gwerthu heroin i Charlie yr heddwas cudd. Yna mae'r Asiant Jones yn cynnig dêl i Johnny o gael osgoi carchar am geisio gwerthu'r cyffuriau os yw’n tystio yn erbyn aelodau eraill o'r Lost. Mae Johnny yn gwrthod y dêl ac yn herio'r asiant i ganfod tystiolaeth i brofi bod o'n un o rai oedd yn ceisio gwerthu'r cyffuriau.

Ray Boccino

golygu
 
Niko a Johnny yn y ddêl diemwntau

Mae Ashley yn cynghori Johnny i weithio i Ray Boccino, un o arweinwyr yr isfyd Eidalaidd-Americanaidd. Mae Ray yn cyflogi Johnny i ddwyn gwerth $2 filiwn o ddiemwntau. Yn ôl ei ffynonellau, cludwyd y diemwntau hyn o Ewrop ar fwrdd y Platypus, gan gogydd tramor sy’n bwriadu eu gwerthu i'r perchennog y clwb nos “Gay Tony” Prince. Mae Johnny, Terry, Clay a chriw o'r lost i'r porthladd ac yn lladd dynion Price a dwyn eu diemwntau.[11] Er mwyn peidio â thynnu sylw mae Ray yn gorchymyn cuddio y damniant mewn biniau gwasarn ar y stryd er mwyn i'w gynghreiriaid eu codi efo lori bins yn gynnar yn y bore heb i neb amau dim. Wedi adfer y diemwntau mae Ray yn gwysio Johnny i wylio dros ddêl i werthu’r diemwntau am $2 filiwn i aelodau'r Syndicet Iddewig . Yn ei gynorthwyo i amddiffyn y dêl. Mae'r ddêl yn methu pan mae Luis Fernando Lopez gwarchodwr personol Gay Tony, yn torri ar draws y cyfnewid ac yn cael y diemwntau yn ôl. Yn y dryswch mae Johnny yn llwyddo i ddianc gan ddwyn $2 filiwn. Mae Johnny yn lladd gwarchodwyr corff Ray i’w hatal rhag dweud wrtho iddo ddwyn yr arian. Fodd bynnag, llwyddodd Niko Bellic i oroesi'r gyflafan a gododd yn ystod y dêl ac yn rhoi gwybod i Boccino bod Johnny wedi mynd a'r arian. Mae Ray yn herwgipio Jim, i ddenu Johnny i'w achub, yn y gobaith o'i ddal. Mae Johnny yn llwyddo i ryddhau Jim ac mae'r ddau yn ffoi. Mae Boccino mae'n anfon nifer o geir maffia i'w herlid. Gyda chymorth Terry a Clay, mae Johnny yn colli'r erlidwyr. Wrth ddychwelyd i dŷ'r clwb mae'n dysgu bod Jim wedi'i ladd. Roedd gan Jim deulu, gwraig a mab, mae Johnny yn addo eu helpu yn ariannol. Yn y cyfamser, mae Johnny yn penderfynu dod â’i berthynas ag Ashley i ben unwaith ac am byth, wedi blino ar ei gaethiwed i fethamffetaminau a’r helyntion yr oedd wedi eu rhoi ynddo. Cyn gadael, mae Ashley yn hysbysu Johnny bod Billy yn bwriadu tystio yn erbyn y Lost i'r FIB er mwyn cael ei ryddhau o'r carchar. I gadarnhau hyn, mae Asiant Jones o'r FIB yn galw Johnny i ddweud wrtho fod ei amser fel dyn rhydd ar ben a'i fod ar fin cwrdd â "hen ffrind" iddo yn y llys.[12]

Lladd Billy

golygu

Mae'r Anrhydeddus Tom Stubbs yn cysylltu â Johnny gan ddweud bod angen iddynt siarad ag ef ar frys yn y Clwb. Mae Stubbs yn cadarnhau bod Billy wedi bradychu'r ei gang, a'i bod am dystio’n yn erbyn Johnny ar gyhuddiadau o lofruddiaeth a delio cyffuriau. Ar gyngor Stubbs mae'r lost yn penderfynu mynd i ladd Billy yn y carchar cyn iddo roi ei dystiolaeth. Mae'r Lost, dan arweiniad Johnny, yn torri i mewn i garchar Alderney ar ôl dinistrio'r drysau gyda ffrwydron. Ar ôl brwydro ei ffordd trwy'r gwarchodwyr, yr heddlu ac asiantau'r uned arbennig NOOSE (SWAT y gêm), mae Johnny yn llwyddo i ddod o hyd i Billy ac yn ei ladd. Ar ôl lladd Billy mae'r beicwyr yn penderfynu rhoi eu tŷ clwb ar dân, gan eu bod bellach yn ei weld fel symbol o frad eu cyn llywydd.[13]

Ar ôl The Lost and Damned (2008-2013)

golygu

Symud i San Andreas

golygu

Ar ryw adeg rhwng diwedd 2008 a 2013 mae Johnny a'i griw yn penderfynu mynd ar daith beic modur i Los Santos. Er bod Johnny wedi torri eu perthynas, mae'n mynd ag Ashley gyda nhw. Mae Johnny ac Ashley yn dyweddïo eto. Wedi cyrraedd San Andreas, mae Johnny a'r lleill yn penderfynu aros yno ac ymuno â chyfrinfa Los Santos o'r Lost. Mae Johnny yn dod yn is-lywydd ei gyfrinfa newydd. Megis yn Alderney mae'r lost yn cynhyrchu a dosbarthu methamffetamin o'u tŷ clwb yn Blaine County.

Grand Theft Auto V (2013)

golygu

Marwolaeth

golygu

Mae Ashley, sydd dal yn gaeth i fethamffetaminau, yn llwyddo i argyhoeddi Johnny i ysmygu'r cyffur hwn gyda hi. Er mwyn peidio â cholli ei anwylyd, mae Johnny yn cydsynio ac yn ddod yn fwy mwy gaeth i gyffuriau. Mae Ashley yn twyllo Johnny, trwy ddechrau cael rhyw gyda deliwr cyffuriau lleol o'r enw Trevor Philips, sydd mewn busnes gyda'r Lost. Wedi gwylltio am fod Ashley yn cael perthynas â Trevor, mae Johnny'n mynd i dŷ Trevor yn ei sarhau ac yn dweud wrtho am beidio â mynd i'r gwely gyda'i gariad mwyach. Mae Johnny a Trevor yn ymladd a gan fod Johnny wedi ei wanychu gan gyffuriau mae Trevor yn ei drechu ac yn ei ladd.[14]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Johnny Klebitz ar Neoseeker adalwyd 29 Tachwedd 2020
  2. Scott Hill ar IMDb adalwyd 29 Tachwedd 2020
  3. GTA IV TL&D Tasg 1 Clean and Serene
  4. Schiesel, Seth (2009-02-17). "Grand Theft Auto: The Story Continues, as Gritty as Ever (Published 2009)". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-11-29.
  5. "Clean and Serene". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-29.
  6. "Action/Reaction - Grand Theft Wiki". www.grandtheftwiki.com. Cyrchwyd 2020-11-29.
  7. (yn en) Buyer's Market - GTA 4 Wiki Guide - IGN, https://www.ign.com/wikis/grand-theft-auto-4/Buyer%27s_Market, adalwyd 2020-11-29
  8. "Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned/Politics — StrategyWiki, the video game walkthrough and strategy guide wiki". strategywiki.org. Cyrchwyd 2020-11-29.
  9. "This Shit's Cursed". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-29.
  10. Roman's Holiday - GTA 4 Wiki Guide - IGN, https://www.ign.com/wikis/grand-theft-auto-4/Roman%27s_Holiday, adalwyd 2020-11-29
  11. "Diamonds in the Rough". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-29.
  12. "Lost And Damned - Was It Worth It? - iGrandTheftAuto". www.igrandtheftauto.com. Cyrchwyd 2020-11-29.
  13. "Lost And Damned - Get Lost - iGrandTheftAuto". www.igrandtheftauto.com. Cyrchwyd 2020-11-29.
  14. "Mr. Philips". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-29.