Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony

Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony (neu Grand Theft Auto IV: The Ballad of Gay Tony ; sydd hefyd yn cael ei dalfyrru i TBoGT ) yw'r ail o ddau becyn ehangu episodig o gêm fideo 2008 Grand Theft Auto IV, a ddatblygwyd gan Rockstar North ac a gyhoeddwyd gan Take-Two Interactive.[1] Mae'n rhan o gyfres Grand Theft Auto, y drydedd bennod ar ddeg o'r fasnachfraint. Rhyddhawyd y gêm yn unigol ar gyfer yr Xbox 360 ar 17 Chwefror 2009.[2] Fe ryddhawyd ar gyfer y PlayStation 3 a Microsoft Windows ar 13 Ebrill 2010,[3] fel rhan o becyn dau ddisg o'r enw Grand Theft Auto: Episodes from Liberty City, sydd yn cynnwys The Lost and Damned a The Ballad of Gay Tony. Nid oes angen chwarae na bod yn berchen a'r gêm sylfaen er mwyn chware TBoGT. Ychwanegodd Microsoft Episodes from Liberty City at ei restr ôl cydnawsedd ar gyfer llwyfannau Xbox One ym mis Chwefror 2017.[4]

Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony
Enghraifft o'r canlynolpecyn estyn Edit this on Wikidata
CyhoeddwrRockstar Games Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Dyddiad cyhoeddi29 Hydref 2009 Edit this on Wikidata
Genregêm antur ac ymladd, gêm fideo gyda chymeriad LHDT Edit this on Wikidata
CyfresGrand Theft Auto Edit this on Wikidata
CymeriadauRoman Bellic, Willy Valerio, Luis Fernando Lopez, Johnny Klebitz, Niko Bellic, Tony Prince Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLiberty City Edit this on Wikidata
DosbarthyddTake-Two Interactive Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Lleolir y gêm yn Liberty City, dinas ffuglennol a ysbrydolwyd yn bennaf gan Ddinas Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau. Mae'r gêm yn adrodd hanes y prif gymeriad Luis Fernando Lopez, cyn aelod o gartel cyffuriau Dominicaidd a gwarchodwr personol Anthony "Gay Tony" Prince, perchennog dau glwb nos.

Chwarae'r gêm golygu

Mae The Ballad of Gay Tony yn gêm antur weithredol sydd wedi'i gosod mewn amgylchedd byd agored. Mae'r gêm yn cael ei chwarae o safbwynt trydydd person. Mae'n defnyddio'r un nodweddion chware a Grand Theft Auto IV, ac yn digwydd yn yr un lleoliad yn Liberty City. Mae'r chwaraewr yn chwarae cymeriad Luis Fernando Lopez, sy'n gyfrifol am amddiffyn perchennog dau glwb nos, Anthony " Gay Tony" Prince,[5][6]. Mae gan y cymeriad mynediad at arfau sy'n cynnwys arfau llafnog, drylliau, bomiau gludiog, grenadau, lanswyr grenâd a lanswyr rocedi.[7][8] Mae sawl math o drafnidiaeth ar gael iddo hefyd sy'n cynnwys cerbydau ffordd, cychod a hofrenyddion.[6][9]

Megis yn y gemau cynharach mae modd i'r prif gymeriad derbyn cymorth gan gymeriadau eraill o ddod yn gyfeillion iddynt. Y gweithgareddau y gellir eu gwneud gyda ffrindiau yw; Hoci Awyr, Golff, Dartiau, Yfed, Bwyta, Pŵl ac ymweld â chlybiau stripio. Dau ddarpar gyfaill sydd ar gael i Luis - Armando Bardas a Henrique Torres. O ddod yn gyfaill i Armando, bydd yn fodlon mynd ag arfau i werthu i Luis. O ddod yn gyfaill i Henrique gall Luis ei ffonio Henrique i ddod â gwahanol fathau gerbydau iddo.[10]

Tasgau ymylol golygu

Yn unol â threfn y mwyafrif o gemau Grand Theft Auto mae modd cyflawni tasgau ymylol, sydd ddim yn rhan o brif lif y gêm, ond sydd, gan amlaf, yn orfodol i gael sgôr o 100% wrth gwblhau'r gêm.[11]

  • L.C. Cage Fighters – Cymryd rhan mewn nifer o ornestau paffio cawell mewn cylch tanddaearol.
  • Rheoli Clwb - Rheoli Maisonette 9 a pherfformio cyfres o dasgau i gwsmeriaid. (wyth tasg)
  • Rhyfeloedd Cyffuriau - Helpu Armando Torres a Henrique Bardas i greu ymerodraeth cyffuriau.
  • Cymeriadau ar Hap - Cyfarfod â chymeriadau ar hap a gwneud swyddi amrywiol ar eu cyfer.

Prif Gymeriadau golygu

Dau brif gymeriad y gêm yw Luis Fernando Lopez, cyn aelod o'r cartel cyffuriau Dominicaidd.[12] Mae Luis yn corff-warchodwr personol yr entrepreneur cyfunrywiol, Anthony Prince sy'n cael ei adnabod fel "Gay Tony".[13] Mae Tony yn berchen ar ddau glwb nos [14] fwyaf poblogaidd Liberty City, y Maisonette 9 a'r Hercules mae'r ddau glwb yn hoff gyrchfan i sêr y ddinas. Mae gan Tony problem cyffuriau difrifol ac mae ei ddefnydd o gyffuriau wedi ei adel ef a'i fusnesau mewn dyled fawr. Prif thema stori'r gêm yw helyntion Luis wrth iddo warchod Tony rhag cael ei niweidio gan ei ddyledwyr ac amddiffyn busnesau Tony gan rai sydd yn gweld cyfle i'w caffael oherwydd ei sefyllfa ariannol fregus.

Mae prif gymeriadau'r ddwy gêm arall yn nhriawd GTA IV Niko Bellic o'r brif gêm a Johnny Klebitz o The Lost and Damned yn gwneud arddangosiadau cameo yn y gêm. Gweli'r cipolwg o rai o gymeriadau eraill o'r gemau blaenorol megis Roman Bellic, cefnder Niko, a Billy Gray llywydd clwb beicio'r Lost yn y clipiau cyn neu ar ôl tasgau.

Lleoliad golygu

Mae The Ballad of Gay Tony yn cael ei leoli yn ninas ffuglennol Liberty City, dinas sy'n drawsgrifiad o'r Grand Theft Auto IV gwreiddiol ac a ysbrydolwyd yn gryf gan Dinas Efrog Newydd a Thalaith New Jersey. Yn y gêm, mae Broker yn cyfateb i Brooklyn, Algonquin â Manhattan, Dukes â Queens, Bohan â'r Bronx ac Alderney â New Jersey.[15] Mae'r gêm yn caniatáu mynediad i leoedd newydd unigryw nad oedd ar gael yn y gemau eraill, er enghraifft clybiau nos Maisonnette 9 a Hercules.

Plot golygu

Mae golygfa gynta'r gêm yn dangos y prif gymeriad Luis Fernando Lopez yn cael ei gymryd yn wystl yn ystod lladrad banc. Mae prif hanes y lladrad banc yn cael ei chware yn nhasg Three Leaf Clover,[16] ym mhrif gêm GTA IV. Yn y brif gêm mae Niko Bellic, y brodyr Packie a Derrick McReary â Michael Keane yn lladrata o fanc wedi’i leoli yn Algonquin. Mae aelod o glwb gwn lleol sydd hefyd yn wystl, Eugene Reaper, yn saethu gwn ac yn lladd Keane. Mae Packie McReary yn ymateb trwy ladd Reaper. Mae Luis yn dianc yn fyw ac wedi cael ei holi gan yr heddlu fel tyst i'r digwyddiad yn mynd draw i ymweld â Tony yn ei fflat. Ar ei ffordd, mae'n taro ar draws dau brif gymeriad arall o'r gweithiau blaenorol. Wrth i Luis croesi'r ffordd, mae Niko a Packie bron a'i daro wrth ffoi mewn car. Mae Johnny Klebitz yn gyrru heibio Luis ar ei feic modur.[17]

Wedi i Luis cyrraedd fflat Tony mae'n cyfarfod â Rocco Pelosi, a'i ewyrth, Vince. Mae'r ddau wedi ymweld â Tony i gasglu arian fel rhandaliad am ddyled iddynt.[18]

Mae Tony yn dweud wrth Luis am sefyllfa ariannol enbyd ei ddau glwb nos. Mae Tony a Luis yn cael eu hanfon gan Rocco i Chinatown i wneud bargen gydag aelod o'r maffia Tsieineaidd, y Triad. Wrth iddynt gyrraedd maent yn gweld Billy Gray, arweinydd y grŵp beicwyr the Lost, yn cynllwynio gyda'r Triad i fradychu Johnny Klebitz. Mae'r Triad yn ceisio agor clwb nos, ond wedi cael trafferthion efo rheolau cynllunio a thrwyddedu gan yr awdurdodau dinesig. Mae'r Tsieineaid am i Luis a Tony "delio" a'r swyddogion trafferthus. Nid yw'n eglur os ydynt am i'r ddau delio a'r swyddogion gyda thrais, llwgr wobrwyo neu ddefnyddio eu dylanwad fel gŵyr busnes amlwg. Mae Tony a Luis yn egluro nad oes modd iddynt wneud dim i sicrhau'r trwyddedau angenrheidiol, mae hyn yn gwylltio pennaeth y Triad ac mae'n bygwth y ddau efo gwn. Mae Luis yn ymosod ar y pennaeth ac yn llwyddo disodli ei gŵn. Mae sŵn y cythrwfl yn denu sylw troedfilwyr y gang ac mae Luis yn gorfod ymladd brwydr arfog efo llwyth ohonynt er mwyn sicrhau dihangfa i'r ddau.[19]

Mae Luis yn ymweld â'i fam. Dydy mam Luis ddim yn gefnogol iawn i’w ffordd o fyw presennol ac yn ceisio ei argyhoeddi i fynd i’r coleg yn gyson. Mae Luis, serch hynny, yn ei helpu gyda’i phroblemau ariannol, y tro hwn yn gorfod ei helpu gyda siarc benthyg sydd wedi bod yn rhoi problemau iddi.[20] Mae hefyd yn cwrdd ag Henrique Bardas [21] ac Armando Torres,[22] gan eu cynorthwyo mewn dwy ddêl cyffuriau, y mae'r ddwy ddêl yn mynd o chwith. Yn ddiweddarach, mae Luis yn helpu Tony i ddychryn blogiwr o'r enw The Celebinator, fel y byddai'n rhoi'r gorau i bostio erthyglau gwael am glybiau Tony. Cyn bo hir, daw Luis i adnabod Yusuf Amir, datblygwr eiddo tiriog yn Liberty City. Mae Luis yn helpu Yusuf i gaffael sawl cerbyd, gan gynnwys hofrennydd milwrol arbrofol o'r enw'r "Buzzard",[23] cludwr personél arfog (APC) [24] a ddefnyddir gan y NOOSE,[25] a cherbyd trên tanddaearol. Mae Luis hefyd yn lladd dau o gyd weithwyr Yusuf, Ahmed Khaleel a Tahir Saeed, a gynllwyniodd yn gyfrinachol i gymryd drosodd busnes Yusuf

 Luis ymlaen i wneud gwaith i Mori Kibbutz, un arall o fenthycwyr Tony. Mae Luis yn tyfu’n ddiamynedd tuag at agwedd hunanol Mori wrth weithio iddo. Mae'n ei helpu i ladd deliwr cyffuriau a oedd mewn dyled iddo. Mae Mori yn ei herio i ras Triathlon sy'n cynnwys deifio awyr, ras cychod pŵer a ras stryd, mae Luis yn ennill . Yn ddiweddarach, mae Luis yn helpu Mori a'i frawd iau Brucie, y mae'n ei fwlio yn gyson, i ddwyn tri sbortscar. Ar ôl hynny mae'n llwyddo i dalu holl ddyledion Tony iddo ac yn stopio gweithio iddo.

Mae Tony yn mynd i fwyfwy o drafferthion oherwydd cam-drin sylweddau, a gyflenwir gan ei gariad Evan Moss. Mae Luis, Tony ac Evan yn mynd i'r dociau i brynu gwerth $2 filiwn o ddiemwntau gan gogydd sy'n dod i mewn i'r ddinas ar dancer o'r enw'r "Platypus". Yn ystod y cyfnewid, mae aelodau o The Lost (dan arweiniad Johnny Klebitz bellach) yn ymosod ar ac yn lladd Evan ac yn caffael y diemwntau.

Yn ddiweddarach, mae Luis a Tony yn cwrdd â Ray Bulgarin yn Maisonette 9. Mae Luis yn dechrau gweithio iddo, gan ei helpu ef a'i gyfaill Timur i ladd sawl asiant NOOSE llwgr mewn maes parcio tanddaearol. Mae Bulgarin hefyd yn cael Luis i ladd Marki Ashvilli, rheolwr tîm hoci Liberty City Rampage, ar ôl iddo wrthod gwerthu'r tîm i Bulgarin. Mae Bulgarin yn dysgu am ymwneud Luis a Tony â'r diemwntau ac mae'n cael Luis i gyfarfod ac ef trwy dwyll. Mae Bulgarin yn datgelu fod y diemwntau'n perthyn iddo ef yn wreiddiol a'i fod wedi lladd y cogydd am eu dwyn oddi arno. Yna mae Bulgarin yn cyhuddo Luis a Tony o geisio dwyn oddi arno ac yn bygwth lladd y ddau ohonynt. Er bod Luis yn gallu dianc rhag y rhagod ar ôl lladd holl ddynion Bulgarin, mae'n sylweddoli ei fod ef a Tony wedi gwneud camgymeriad wrth gael eu hunain i ymwneud ag ef. Mae'n gofidio rŵan bydd y cyfan o Faffia'r Rwsiaid yn ceisio eu lladd.

Mae problemau Tony a Luis yn gwaethygu ar ôl i Gracie Ancelotti gael ei herwgipio gan Niko Bellic, gan arwain gang Ancelotti i fygwth Luis a Tony a'u gorfodi i ddarganfod ble cymerwyd Gracie. Ar ôl dilyn Patrick McReary gan ddefnyddio hofrennydd, mae'r ddau ohonynt yn dysgu lle mae Gracie yn cael ei dal. Mae Niko a Patrick yn trefnu cyfnewid lle mae Luis a Tony yn cael eu gorfodi i ffeirio diemwntau am ryddid Gracie. Wrth i'r cyfnewid digwydd mae Bulgarin yn troi fyny i gael ei ddiemwntau'n ôl. Mae'n gorchymyn i'w ddynion ladd Niko a Luis. Yn ystod y frwydr, mae Luis a Tony yn dianc gyda Gracie ar fwrdd cwch cyflym ac yn ei dychwelyd i Ancelotti, tra bod Niko a Patrick yn parhau i ymladd â dynion Bulgarin dros y diemwntau. Wrth i'r frwydr mynd rhagddi mae'r diemwntau yn cwympo i mewn i lori bins sy'n mynd heibio ac yn cael eu colli am byth .

Yn fuan ar ôl i'r cyfnewid fethu, mae Luis yn derbyn galwad gan Rocco, sy'n gofyn iddo gwrdd ag ef a'i ewyrth Vince yn Middle Park. Mae Rocco yn rhoi gwybod i Luis bod Giovanni Ancelotti wedi cael cyfarfod gyda Bwlgarin i drafod eu problemau diweddar ac wedi dod i'r casgliad i'r casgliad bod yn rhaid lladd naill ai Luis neu Tony. Mae Rocco yn cynghori Luis i ladd Tony yn bersonol, fel y byddai'r Rwsiaid a'r Ancelotti yn gadael llonydd iddo ef a'i anwyliaid. Mae Luis yn cytuno'n anfodlon. Mae'n cydgyfarfod â Tony, Rocco a Vince ym Maisonette 9. Mae Luis yn newid ei feddwl am ladd Tony ac yn saethu Vince yn lle. Mae Rocco yn ffoi o'r clwb wrth i ddynion Bulgarin stormio i mewn i ladd Luis a Tony, ond mae'r ddau yn llwyddo brwydro'n ôl a dianc.

Mae Tony yn ymbaratoi i ffoi o Liberty City a dialedd Bulgarin. Mae Luis yn egluro nad oes modd byw ar ffo parhaus rhai iddynt wynebu eu gelynion a'u trechu. Mae Luis yn mynd draw i Firefly Island i ddifrodi cyflenwad Herioin y Rwsiaid. Wedi difrodi'r Heroin mae Timur yn ei watwar gan gyhoeddi bod Bulgarin ar fin ymadael a Liberty City ar ei awyren breifat. Wedi lladd Timur mae Luis yn mynd tuag at y maes awyr yn cael ei erlid gan faffia arfog yr holl ffordd. Gyda chymorth Yusuf sy'n eu dilyn yn y Buzzard [23] mae'r erlidwyr yn cael eu lladd, ac mae Luis yn llwyddo dal yr awyren wrth iddo baratoi i esgyn. Mae Bwlgarin yn dod allan o gaban y peilot gan dal grenâd. Mae'n bygwth dinistrio'r ddau ohonynt os yw Luis yn ei ladd. Mae Luis yn cymryd y risg ac yn saethu Bulgarin, sy'n gollwng y grenâd gan achosi iddo ffrwydro. Mae Luis yn parasiwtio allan o'r awyren ddrylliedig i ddiogelwch, ac yn mynd i Meadows Parc lle mae Tony yn aros amdano. Mae Yusaf yn cyrraedd ac yn cynnig prynu’r clybiau er mwyn i Tony a Luis cael dechrau o'r newydd ond mae'r ddau yn penderfynu dal eu gafael arnynt.

Wrth i glip cloi'r gêm mynd rhagddi, gwelir dyn digartref yn canfod y diemwntau mewn bin gwasarn, ac yn rhedeg i ffwrdd gyda nhw.

Derbyniad golygu

Derbyniad
Sgôr cyfansawdd
Cwmni Sgôr
Metacritic X360: 89/100 [26]

PS3: 87/100 [27]

Sgoriau adolygu
Cyhoeddwr Sgôr
Eurogamer 8/10
IGN 9.2/10

Derbyniodd Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony adolygiadau "ffafriol ar y cyfan" gan feirniaid, yn ôl y cwmni cyd-risialu adolygiadau Metacritic. Yng Ngwobrau Gêm Fideo Spike 2009, dyfarnwyd y wobr cynnwys lawr lwytho Orau i The Ballad of Gay Tony.

Dyfarnodd Complex mae Anthony "Gay Tony" Prince oedd y cymeriad gêm fideo LHTD mwyaf cŵl mewn rhestr a gyhoeddwyd yn 2013, gan gyfeirio ato fel "hot mess y gyfres GTA".

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rockstar Games". Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-26. Cyrchwyd 2020-12-05.
  2. Burton, Nick (2019-11-02). "Looking back to 2009 and the action packed Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony". TheXboxHub. Cyrchwyd 2020-12-05.
  3. "Grand Theft Auto The Ballad of Gay Tony Download - GTADownload.org". Grand theft Auto - GTADownload.org. 2016-10-07. Cyrchwyd 2020-12-05.
  4. "Grand Theft Auto IV and Episodes from Liberty City Now Playable on Xbox One with Backward Compatibility". Rockstar Games. Cyrchwyd 2020-12-05.
  5. "Test du jeu Grand Theft Auto : Episodes from Liberty City sur PS3". Jeuxvideo.com (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2020-12-05.
  6. 6.0 6.1 "'Grand Theft Auto IV' journey will end with a bang - USATODAY.com". usatoday30.usatoday.com. Cyrchwyd 2020-12-05.
  7. "GRAND THEFT AUTO IV - The Ballad of Gay Tony - Weapons". www.gta4.net. Cyrchwyd 2020-12-05.
  8. "Grand Theft Auto IV: The Ballad of Gay Tony Review for PC". www.cheatcc.com. Cyrchwyd 2020-12-05.
  9. "GRAND THEFT AUTO IV - The Ballad of Gay Tony - Cheats: Health, Armour, Weapons". www.gta4.net. Cyrchwyd 2020-12-05.
  10. "Friendships in The Ballad of Gay Tony - Grand Theft Wiki, the GTA wiki". www.grandtheftwiki.com. Cyrchwyd 2020-12-05.
  11. "Steam Community :: Guide :: 100% Completion Guide for The Ballad of Gay Tony". steamcommunity.com. Cyrchwyd 2020-12-05.
  12. "Grand Theft Auto: 10 Things You Didn't Know About Luis Lopez". TheGamer. 2020-09-01. Cyrchwyd 2020-12-05.
  13. "Some queer characters from the world of video games". www.telegraphindia.com. Cyrchwyd 2020-12-05.
  14. McWhertor, Michael (2018-07-19). "GTA Online update brings back 'Gay Tony,' lets you run a nightclub". Polygon. Cyrchwyd 2020-12-05.
  15. "Grand Theft Auto IV: Photos reveal similarities between Liberty City and New York City". The Telegraph. Cyrchwyd 2020-12-05.
  16. "Three Leaf Clover/Walkthrough - Grand Theft Wiki, the GTA wiki". www.grandtheftwiki.com. Cyrchwyd 2020-12-05.
  17. "I Luv LC". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-12-05.
  18. "Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony/Walkthrough — StrategyWiki, the video game walkthrough and strategy guide wiki". strategywiki.org. Cyrchwyd 2020-12-05.
  19. "GRAND THEFT AUTO IV - The Ballad of Gay Tony - Chinese Takeout". www.gta4.net. Cyrchwyd 2020-12-05.
  20. "Ballad Of Gay Tony - Momma's Boy - iGrandTheftAuto". www.igrandtheftauto.com. Cyrchwyd 2020-12-05.
  21. "Henrique Bardas". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-12-05.
  22. "Armando Torres". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-12-05.
  23. 23.0 23.1 "Buzzard". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-12-05.
  24. "APC". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-12-05.
  25. "National Office of Security Enforcement". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-12-05.
  26. "Grand Theft Auto IV: The Ballad of Gay Tony". Metacritic. Cyrchwyd 2020-12-05.
  27. "Grand Theft Auto IV: The Ballad of Gay Tony". Metacritic. Cyrchwyd 2020-12-05.