Luned

llawforwyn Iarlles y Ffynnon yn chwedloniaeth Arthuraidd

Llawforwyn Iarlles y Ffynnon yn y Rhamant o'r un enw oedd Luned; daeth ei enw yn drosiad am ferch hardd. Mewn ffynonellau Cymraeg diweddarach cyfeirir ati hefyd fel Eluned Ddedwydd.

Hanes Luned golygu

Yn y chwedl Owain, neu Iarlles y Ffynnon, mae Luned yn cynorthwyo'r marchog, Owain, i ddianc o'i garchar ym mhorth castell yr Iarlles trwy roi iddo fodrwy hud. Mae'r fodrwy yn gwneud yr un sy'n ei gwisgo yn anweladawy ac mae Luned yn cuddio Owain mewn llofft ac yna'n ymbilio ar ei meistres i drefnu priodas rhyngddi ac Owain.

Yn nes ymlaen mae Owain yn rhyddhau Luned o garchar ac o dân gyda chymorth y llew cyfeillgar sy'n ei gynorthwyo. Cred rhai ysgolheigion mae'r un ydy Luned ac Iarlles y Ffynnon a bod seiliau'r chwedl yn gorwedd ym myd mytholeg y Celtiaid.

Rhestrir 'Maen a Modrwy Eluned Ddedwydd' fel un o 'Tri Thlws ar Ddeg Ynys Brydain', ond ychwanegiad i'r rhestr wreiddiol ydyw am ei fod yn rhif 15, yr olaf yn y testun.[1]

Ei henw golygu

Anghytunir ar darddiad ei henw. Ceir sawl fersiwn o ramant Iarlles y Ffynnon mewn ieithoedd eraill, yn enwedig y Ffrangeg, ac mae arbenigwyr yn anghytuno ynglŷn â tharddiad y chwedl honno yn ei ffurf bresennol a hefyd yr enw Luned/Eluned ei hun. 'Lunet[t]e' a geir yn y rhamantau Ffrangeg ac mae'n bosibl bod Luned yn Gymreigiad o'r enw hwnnw, ond mae'n bosibl hefyd ei fod yn dalfyriad o'r enw Cymraeg 'Eluned', ac yn sicr felly os derbynnir fod y rhamant ei hun yn gyfansoddiad Cymraeg gwreiddiol yn hytrach nac addasiaid o'r Ffrangeg. Cynigiodd Ifor Williams fod yr enw Eluned yn cynnwys yr elfen El-, sy'n gyfystyr â 'llawer' (cf. Elfyw), a bod yr ail ran yn cynnwys yr elfen (i)un a geir mewn geiriau fel 'dymuniad' ac 'eidduned'; pan gafodd ei fenthyg i'r Ffrangeg collwyd yr E a chafwyd y ffurf 'Lunette', gyda'r cysylltiad â'r lleuad (Ffrangeg: lune) yn cynnig ystyr ac arwyddocad i'r Ffrancod.[2]

Barddoniaeth golygu

Ceir sawl cyfeiriad at Luned yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr, gan amlaf fel trosiad am ferch hardd a dymunol. Ceir rhai o'r enghreifftiau cynharaf yng ngwaith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd ac Iorwerth ab y Cyriog. Dyma enghraifft o farwnad Lewys Glyn Cothi (15g) i Gwenllian ferch Owain Glyndŵr:

Duw a ethol y doethion,
ninnau sydd fal briwydd bron.
Gwenllian mal gwinllan medd
fu Luned ful o Wynedd,
a Iesu fo cynhwyswr
I Luned wen o Lyndŵr.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad 1991), Atodiad III.
  2. Ifor Williams, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd x, 44; nodir gan Rachel Bromwich yn Trioedd Ynys Prydein, tud. 551.
  3. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996). Cerdd 188, llinellau 55-60.

Gweler hefyd golygu