Iorwerth ab y Cyriog
Un o Feirdd yr Uchelwyr a fu yn ei flodau tua chanol y 14g oedd Iorwerth ab y Cyriog (fl. tua 1325 - tua 1375). Er nad oes prawf pendant, gellir bod yn weddol hyderus mai mab y bardd Gronw Gyriog oedd ef a'i fod, fel ei dad, yn hannu o Fôn.[1]
Iorwerth ab y Cyriog | |
---|---|
Ganwyd | 14 g Ynys Môn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1350 |
Tad | Gronw Gyriog |
Bywyd
golyguMae'r ychydig a wyddys am y bardd yn deillio o dystiolaeth ei gerddi ei hun a dau gyfeiriad ato yng ngwaith ei gyfoeswyr Sefnyn a Dafydd ap Gwilym. Yn ei farwnad iddo mae Sefnyn yn awgrymu ei fod yn bencerdd gyda meistrolaeth ar ganu yn null Aneirin (h.y. canu mawl), ac mae'n amlwg fod y ddau fardd yn gyfeillion. Yn y cywydd 'Cae Bedw Madog', awgryma Dafydd ap Gwilym fod Iorwerth wedi canu cerdd i ferch yn gyfnewid am dâl - h.y. fod ei fryd er bethau materol. Ond mae'r ffaith fod dau o feirdd mwyaf y ganrif yn cyfeirio ato o gwbl yn dangos fod y bardd yn adnabyddus ac yn fardd o bwys.[1]
Cerddi
golyguEr ei bod yn debygol iawn fod y bardd yn frodor o Fôn ac yn perchen tir yno, i noddwyr ym Meirionnydd y mae'r cerddi ganddo sydd wedi goroesi. Priodolir pum cerdd iddo, sef dwy awdl (un i Dduw a'r llall i ferch o Feirionnydd o'r enw Efa), cywydd i ddiolch am glasb, cywydd marwnad i Einion ap Seisyll o Fathafarn (plwyf Llanwrin, ger Machynlleth), a dychan i Ddrws-y-nant (rhwng Llanuwchllyn a Dolgellau).[1] Dim ond y tair cyntaf a dderbynir fel gwaith dilys Iorwerth a cheir cryn ansicrwydd am awduraeth y ddwy olaf. Er mai bychan yw cyfanswm y cerddi a gadwyd, ceir llinellau cofiadwy iawn ynddynt, e.e. am Efa sy'n
- Lloer morynion llawr Meirionnydd.[1]
Yn ei gywydd i ddioch am glasb ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf ar glawr at Feddygon Myddfai.[1]
Ceir y testunau hynaf o gerddi Iorwerth yn Llyfr Coch Hergest.
Llyfryddiaeth
golyguGolygir gwaith y bardd gan W. Dyfed Rowlands ac Ann Parry Owen yn,
- Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.
Cyfeiriadau
golyguBedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd