Lyn Evans

ffisegydd Cymreig

Gwyddonydd Cymreig yw Dr Lyn Evans (ganed 1945). Ef oedd cyfarwyddwr prosiect CERN, ger Genefa yn y Swistir.

Lyn Evans
Ganwyd24 Gorffennaf 1945 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auGwobr Robert R. Wilson, Glazebrook Medal, CBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Sefydliad Ffiseg, IEEE Simon Ramo Medal, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Ganwyd a magwyd Evans yn Aberdâr, yng nghymoedd de Cymru. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Bechgyn Aberdâr, lle bu ganddo ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Ond cafodd hi'n anodd pasio ei Lefel O mewn Ffrangeg, cymhwyster a oedd yn angenrheidiol iddo allu astudio cwrs gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe.[1] Roedd ganddo ddiddordeb mewn cemeg pan oedd yn ifanc,[2] a cofrestrodd i astudio'r pwnc hwn yn y brifysgol, cyn newidi astudio ffiseg yn ei ail flwyddyn yn y brifysgol, gan ei fod yn canfod y pwnc yn haws[3][3] Daeth yn gymrawd anrhydedd o Brifysgol Abertawe yn 2002.[4] Gwbrwywyd â Doethuriaeth Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth gan Brifysgol Morgannwg yng Ngorffennaf 2010.

Cymrawd ymwchwil oedd Evans yn CERN i gychwyn, wedi iddo ymweld â'r sefydliad am y tro cyntaf ym 1969.[3] Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr CERN erbyn hyn, mae'n arweinydd y Prosiect Gwrthdrawydd hadronnau mawr (Large Hadron Collider Project) yn CERN, sy'n ceisio ail-greu eiliadau cyntaf y bydysawd yn dilyn y Glec Fawr. Cafodd y llysenw Evans yr Atom gan y wasg.[2]

Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Aberdâr ac ym Prifysgol Cymru, Abertawe.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Lyn Evans. BBC Scifiles. Adalwyd ar 5 Rhagfr 2008.
  2. 2.0 2.1  Meet Evans the Atom, who will end the world on Wednesday. Daily Mail (7 Medi 2008). Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2008.
  3. 3.0 3.1 3.2  Scientist in charge of collider. BBC Wales. Adalwyd ar 26 Gorffennaf 2009.
  4.  Lyn Evans. Cern Courier (1 Tachwedd 2002). Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2008.

Dolenni allanol golygu