Tref yng Nghwm Cynon ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Aberdâr (Saesneg: Aberdare). Cyfeirnod OS: SO0002. Lluosog "derwen" ydy "dâr", ac mae'r enghraifft ysgrifenedig gyntaf o'r gair yn dyddio o 1203.[angen ffynhonnell] Ceir hefyd yng ngogledd Cymru Aberdaron, sydd hefyd yn ymwneud â choed derw. Ym 1991 roedd poblogaeth y dref yn 31,619. Mae Aberdâr bedair milltir o Ferthyr Tudful a thua 24 milltir o Gaerdydd, ar Afon Cynon. Mae gwasanaeth rheilffordd rhwng Aberdâr a Chaerdydd trwy Gwm Cynon.

Aberdâr
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,506 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMontélimar Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,032.76 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7131°N 3.445°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000679 Edit this on Wikidata
Cod OSSO005025 Edit this on Wikidata
Cod postCF44 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map
Marchnad Aberdâr

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).[1][2]

Roedd Aberdâr yn sir hanesyddol Morgannwg. Yng Nghwmbach Aberdâr y ffurfiwyd y gangen gyntaf o'r Gymdeithas Gydweithredol yng Nghymru, ym 1860.

Yn wreiddiol, ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd pentref Aberdâr mewn ardal amaethyddol, ond pan ddarganfuwyd llawer o lo a mwyn haearn yn yr ardal cynyddodd y boblogaeth yn gyflym iawn. Sefydlwyd gweithdai haearn yn Llwydcoed ac Abernant ym 1799 a 1800, wedi'u dilyn gan eraill yn Gadlys ac Aberaman ym 1827 a 1847. Nid yw'r rhain wedi gweithio ers 1875. Cyn 1836, câi'r rhan fwyaf o'r glo ei ddefnyddio yn lleol, yn bennaf yn y gweithdai haearn, ond wedyn dechreuwyd allforio glo o dde Cymru. Yn ail hanner y 19g, gwellodd y dref yn fawr.

Aberdâr oedd cartref un o feirdd yr Ail Ryfel Byd, Alun Lewis, ac mae dyfyniad o'i gerdd The Mountain over Aberdare i'w weld yn y dref. Dyma gartref y Stereophonics hefyd, sy'n dod o Gwmaman. Fel mae'n digwydd mae yna Aberdare yn Ne Cymru Newydd, Awstralia, sydd hefyd yn cynnwys pyllau glo.

Eglwysi a Chapeli

golygu

Ar un adeg yr oedd nifer fawr o gapeli anghydffurfiol yn Aberdâr a'r cyffiniau ond mae'r mwyafrif ohonynt wedi cau erbyn hyn.

Y Bedyddwyr oedd y mwyaf dylanwadol o'r enwadau anghydffurfiol yn Aberdâr ac fe sbardunwyd eu tŵf gan y Parch. Thomas Price a ddaeth i Aberdâr ym 1845 fel gweinidog Calfaria, eglwys a sefydlwyd yn wreiddiol yn 1812.

Chwaraeon

golygu

Ceir tîm pêl-droed yn y dref, C.P.D. Tref Aberdâr. Bu'r tîm yn llwyddiannus iawn ar ddechrau'r 20g. Mae wedi bod drwy sawl newid enw a strwythur. Mae nawr yn chwarae yn adrannau Cynghrair Cymru (Y De).

Enwogion

golygu

Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr ym 1861, 1885 a 1956. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldrefi

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Dolenni allanol

golygu