Máirtín Ó Cadhain
Ysgrifennwr yn yr iaith Wyddeleg oedd Máirtín Ó Cadhain (1906 – 18 Hydref 1970; IPA: ˈmɑːrtʲiːnʲ oː ˈkainʲ).
Máirtín Ó Cadhain | |
---|---|
Ganwyd | 1906 An Spidéal |
Bu farw | 18 Hydref 1970 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, beirniad llenyddol, academydd, rhyddieithwr, cyfieithydd |
Adnabyddus am | Cré na Cille |
Priod | Máirín Ní Rodaigh |
llofnod | |
Ganwyd Máirtín Ó Cadhain yn Cnocán Glas, ger pentre An Spidéal yn Sir Gaillimh. Roedd yn aelod yr IRA (Byddin Weriniaethol Iwerddon). Roedd e'n weithgar iawn dros y Wyddeleg ac yn aelod y gymdeithas Muintir na Gaeltachta a helpodd sefydlu Gaeltacht newydd Ráth Chairn yn Swydd Meath ym 1935.
Cafodd ei garcharu yng ngwersyll y Currach yn Cill Dara drwy'r Ail Rhyfel y Byd am ei fod yn aelod yr IRA. Yno fe astudiodd ieithoedd megis Rwseg, Cymraeg a Llydaweg. Ac yno yr ysgrifennodd ei waith enwocaf, y nofel Cré na Cille (tir y mynwent). Aeth ymlaen i addysgu cannoedd o'i gyd-carcharwyr y Wyddeleg. Ysgrifennwyd dau lyfr arall tra yn y carchar Athnuachan a Barbed Wire.
Ar sail ei lyfrau apwyntwyd e yn ddarlithydd Gwyddeleg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn Ystirir Ó Cadhain fel un o brif awduron Gwyddeleg yr 20g. Roedd e'n rhugl ym mhob un o'r tafodieithoedd a Gaeleg yr Alban yn ogystal ar Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Ganol.
Roedd yn un o sylfaenwyr y mudiad hawliau iaith Wyddeleg, Gluaiseacht Chearta Sibhialta na Gaeltachta, mudiad a ysbrydolwyd gan ddulliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Cyhoeddiadau
golyguYsgrifennodd Máirtín Ó Cadhain yn yr Irish Times (27 Chwefror, 1970), "Os na fydd y Llywodraeth yn sefydlu radio cyfreithlon efallai y bydd radio anghyfreithlon."
- Cré na Cille, 1949/1965
- Athnuachan, 1995
- Barbed Wire, 2002
- Idir Shúgradh agus Dáiríre, 1975
- An Braon Broghach (y diod tywyll), 1991
- Cois Caoláire, 2004
- An tSraith dhá Tógáil, 1970/1981
- An tSraith Tógtha, 1977
- An tSraith ar Lár, 1986
- Ó Cadhain i bhFeasta (yn y cylchgrawn Feasta), 1990
- Caiscín (yn yr Irish Times), 1998
- Caithfear Éisteacht (yn y cylchgrawn Comhar), 1999
- As an nGéibheann (o'r carchar), llythyrau rhyngddo a Tomás Bairéad