Mae'r Môr Coch[1] yn fraich hir gul o Gefnfor India sy'n gorwedd rhwng gogledd-ddwyrain Affrica a gorynys Arabia yng Ngorllewin Asia. Yn ddaearegol mae'n rhan o Ddyffryn y Rhwyg Mawr (Great Rift Valley). Ei arwynebedd yw 438,000 km² (169,076 milltir²).

Y Môr Coch
Mathmôr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlcoch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCefnfor India Edit this on Wikidata
GwladYr Aifft, Sawdi Arabia, Swdan, Jibwti, Eritrea, Iemen, Israel, Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Arwynebedd445,816 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGogledd Affrica, Y Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22°N 38°E Edit this on Wikidata
Map
Map o'r Môr Coch
Delwedd loeren o'r Môr Coch
Hen ffresgo o Dura Europos yn dangos Moses yn arwain ei bobl trwy'r Môr Coch
Pysgod ar rîff cwrel, Môr Coch yr Aifft

Daearyddiaeth

golygu

Mae'n ymestyn tua 2400 km (1490 milltir) i'r gogledd-ogledd-orllewin o gulfor Bab al Mandab rhwng Gwlff Aden a'r Môr Coch ei hun, sy'n ddarn bach o fôr rhwng Bab al Mandab yn Jibwti a phwynt mwyaf gorllewinol yr Iemen. Yn y gogledd fe'i cysylltir â'r Môr Canoldir gan Culfor Suez a Chamlas Suez. Yn ei ben gogleddol hefyd mae Gwlff Aqaba yn ymestyn i'r gogledd-ddwyrain rhwng Sinai a Sawdi Arabia ac mae gan Israel a Gwlad Iorddonen stribyn cul o dir yn ei ben eithaf.

Ar ei lannau mae arfordiroedd yr Aifft, Swdan, Eritrea a Jibwti yn Affrica ac Iemen, Sawdi Arabia a'r Sinai (yn yr Aifft) yng Ngorllewin Asia.

Yn hanesyddol mae'r Môr Coch wastad wedi bod yn sianel pwysig i fasnach forol ond tyfodd yn gyflym mewn pwysigrwydd yn sgîl agor Camlas Suez yn 1869.

Yr Eifftwyr Hynafol oedd y cyntaf i geisio archwilio'r Môr Coch. Yn y Beibl mae hanes yr Exodus yn adrodd sut y bu i Moses arwain yr Israeliaid drwy ddyfroedd y môr (cyfeiriad at y Môr Pabwyr hynafol, ar safle Culfor Suez heddiw, efallai) a boddi o fyddin Pharo ynddo.

Fodd bynnag, morwr Groegaidd o'r enw Hippalus a roddodd gyhoeddusrwydd rhyngwladol fel petai i'r Môr Coch trwy ei gyfrol ar fordaith i gyffiniau Eritrea; agorwyd masnach eang a buddiol rhwng Ewrop ac Asia mewn canlyniad. Am ganrifoedd bu morwyr Arabaidd yn hwylio'r môr yn eu dhows, rhwng Affrica ac Arabia ac rhwng yr Aifft ac is-gyfandir India.

Bu'n rhaid aros tan y 15g i Ewrop ddechrau cymryd diddordeb yn y môr. Yn 1798 gorchmynodd Ffrainc i Napoleon Bonaparte oresgyn yr Aifft a dwyn y Môr Coch. Er iddo fethu yn ei ymdrech arweiniodd hynny i'r peiriannydd J.B. Lepere ail edrych ar gynlluniau i adeiladu camlas, syniad a wyntyllwyd am y tro cyntaf yn oes y Pharos. Agorwyd Camlas Suez yn 1869. Y pryd hynny rhannai Prydain, Ffrainc a'r Eidal wersyllfaoedd masnach yno.

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd bu'r ardal yn destun ymgiprys am ddylanwad rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd; yn y cyfamser tyfodd maint y drafnidiaeth llongau olew yn sylweddol. Fodd bynnag, mewn canlyniad i'r Rhyfel Chwech Diwrnod caewyd Camlas Suez o 1967 hyd 1975 a lleihaewyd y drafnidiaeth. Byth ers hynny nid yw Suez a'r Môr Coch wedi adfer eu lle yn wyneb cystadleuaeth o lwybr forol Penrhyn Gobaith Da.

Trefi a dinasoedd

golygu

Mae'r trefi a dinasoedd ar lan y Môr Coch yn cynnwys:

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 94.

Dolenni allanol

golygu