Môr Chukchi
môr
Un o foroedd ymylol Cefnfor yr Arctig yw Môr Chukchi (Rwseg: Чуко́тское мо́ре), sy'n gorwedd rhwng Rwsia a'r Unol Daleithiau. Mae'n terfynu yn y gorllewin gyda Culfor De Long, ger Ynys Wrangel, ac yn y dwyrain gan Pwynt Barrow, Alaska, gyda Môr Beaufort y tu hwnt i hynny. Mae Culfor Bering yn ffurfio ei derfyn deheuol ac yn ei gysylltu gyda Môr Bering a'r Cefnfor Tawel. Y prif borthladd yw Uelen yn Ocrwg Ymreolaethol Chukotka yn Nwyrain Pell Rwsia.
Math | môr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cefnfor yr Arctig |
Gwlad | Rwsia, Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 69.51°N 171.29°W |
Enwir y môr ar ôl y bobl Chukchi, sy'n byw yn Ocrwg Ymreolaethol Chukotka. Ceir poblogaeth sylweddol o Eirth Gwyn yn yr ardal.