Culfor Bering
Culfor Bering (Rwseg: Берингов пролив, Saesneg: Bering Strait) yw'r culfor rhwng Penrhyn Dezhnev yn Rwsia, y rhan fwyaf dwyreiniol o gyfandir Asia, a Cape Prince of Wales yn Alaska, rhan fwyaf gorllewinol cyfandir Gogledd America.
Math | culfor |
---|---|
Enwyd ar ôl | Vitus Bering |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Arctig |
Sir | Alaska |
Gwlad | Rwsia |
Cyfesurynnau | 65.75°N 168.9769°W |
Mae'r culfor, sydd tua 92 km (58 milltir) o led a 30 – 50 m o ddyfnder, yn cysylltu Môr Chukchi (rhan o Gefnfor Iwerydd) gyda Môr Bering, sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel. Enwyd y culfor ar ôl y fforiwr Vitus Bering, Daniad yng ngwasanaeth Rwsia, a groesodd y culfor yn 1728, er y gwyddir i Semyon Dezhnev hwylio trwy'r culfor yn 1648.
Yn ystod Oes yr Ia roedd tir yn cysylltu dwy ochr Culfor Bering, a thros y tir yma y croesodd pobl gynnar o gyfandir Asia i gyfandir America. Gwyntyllwyd y syniad o bont neu dwnel yn cysylltu dwy ochr y culfor, ond ar hyn o bryd bychan yw'r boblogaeth ar y ddwy ochr, ac nid oes ffyrdd yn cysylltu'r sefydliadau ar lannau'r culfor a gweddill y wlad ar yr ochr Rwsaidd nag ochr Alaska. Mae gwahaniaeth amser o 21 awr rhwng y ddwy ochr, gyda'r ochr Rwsaidd ddiwrnod ar y blaen i'r ochr Americanaidd.