Môr a Mynydd - Eryri a'r Glannau o'r Awyr

Golwg ar Eryri a'r glannau o'r awyr trwy gyfrwng ffotograffau lliw gan Gwilym Davies ac Iwan Llwyd yw Môr a Mynydd: Eryri a'r Glannau o'r Awyr. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2001. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Môr a Mynydd - Eryri a'r Glannau o'r Awyr
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGwilym Davies ac Iwan Llwyd
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg a Saesneg
PwncTwristiaeth yng Nghymru
Argaeleddmewn print
ISBN9780863817373

Disgrifiad byr golygu

Casgliad o dirluniau ffotograffig a dynnwyd gan Gwilym Davies sydd wedi teithio mewn awyren gyda’i gyfaill Arfon, y peilot, ers deunaw mlynedd yn cofnodi golygfeydd.

Cyflwynir y lluniau fesul thema mewn wyth o benodau. Yr hyn sydd bob amser yn ddifyr mewn lluniau o’r awyr yw eu bod yn rhoi cyfle i ni weld ein byd cyfarwydd o bersbectif newydd ac i ddarganfod cyfrinachau’r gorffennol sy’n cuddio oddi mewn i’r tirwedd. Yr uchafbwyntiau i mi yw’r llun rhyfeddol o Dre’r Ceiri ar yr Eifl lle gwelir yn glir olion y cytiau; y cylchoedd o gytiau’r Gwyddelod ger Caergybi; y llun o Fynydd Parys oedd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf fel llun agos o graig ar lan y môr.

Ceir yn y gyfrol hefyd farddoniaeth gan Iwan Llwyd. Mae’r bardd yn cyfrannu haenau ychwanegol o ystyr i’r delweddau; dim ond bardd go-iawn fyddai’n sylwi bod “olion gwaed a gweddïau pobl yn gymysg â phatrymau naturiol tro’r llanw” ar luniau’r arfordir. Cawn lu o hanesion ganddo a dyfyniadau o gerddi wrth iddo gyflwyno talpiau o hanes yn gefndir i’r lluniau gan bwysleisio’n gyson y pwysigrwydd o weld y tirlun yng nghyd-destun y diwylliant sydd wedi cyfoethogi’r glannau yma. Hoffais yn arbennig ei ddarn yn esbonio’r cysyniad o “lwybr cerdd” a gyflwynwyd gan Bruce Chatwin – y pererin aflonydd.

Mae’n gyfrol anferth dros 400 tudalen a grëwyd gydag adnoddau ariannol dihysbydd i ddathlu’r milflwydd. Mae’r lluniau gan Yann Arthus-Bertrand a dreuliodd bum mlynedd yn hedfan o gwmpas y byd yn wirioneddol wych a’r atgynhyrchu o’r safon uchaf. Mae Môr a Mynydd, a gynhyrchwyd gydag adnoddau cyfyngedig, yn ymddangos fel corrach yn ei hymyl.

Mae'r uchod yn addasiad o adolygiad o'r gyfrol, fel y'i gwelir ar wefan Gwales yma. Awdur yr adolygiad ar Gwales yw Marian Delyth.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013