Macbeth, brenin yr Alban
(Ailgyfeiriad o Macbeth, Brenin yr Alban)
Macbeth (c.1005 - 15 Awst 1057) oedd brenin yr Alban o 1040 hyd ei farwolaeth yn 1057. Ei daid oedd Malcolm II. Priododd Gruoch wyres Kenneth II, brenin yr Alban.
Macbeth, brenin yr Alban | |
---|---|
Ganwyd | 1005 |
Bu farw | 15 Awst 1057 Lumphanan |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Alban |
Galwedigaeth | brenin |
Swydd | teyrn yr Alban, Mormaer of Moray |
Tad | Findláech of Moray |
Mam | Donalda of Alba |
Priod | Gruoch of Scotland |
Llinach | Tŷ Moray |
Yn 1040 gorchfygodd Duncan, brenin yr Alban, a'i ladd a gyrrodd ei feibion, Malcolm a Donald Bán, i alltudiaeth. Ar un olwg mae'n cynrychioli ymateb Celtaidd i ddylanwad Seisnig yn nheyrnas yr Alban.
Rheolodd am dros ddegawd, ond ar 15 Awst, 1057, fe'i lladdwyd gan Malcolm III, brenin yr Alban, mab Duncan, ym mrwydr Lumphanan.[1]
Seilir y ddrama Macbeth gan Shakespeare ar ei fywyd a thraddodiadau amdano. Ffynhonnell Shakespeare oedd y croniclydd Holinshed a dynnodd ar yr hanesydd Albanaidd Boyis Boece.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Broun, Dauvit (2015). "Malcolm III". In Cannon, John; Crowcroft, Robert (gol.). The Oxford Companion to British History (yn Saesneg) (arg. 2nd). Oxford University Press. Cyrchwyd 6 Awst 2020.