Macrinus
Marcus Opellius Macrinus neu Macrinus (164–218) oedd Ymerawdwr Rhufain o 11 Ebrill 217 hyd ei farwolaeth.
Macrinus | |
---|---|
Ganwyd | 164, 165 Cherchell |
Bu farw | 218 Cappadocia |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Praetorian prefect |
Priod | Nonia Celsa |
Plant | Diadumenian |
Llinach | Severan dynasty |
Ganed Macrinus yn Iol Caesarea yn nhalaith Mauretania Caesariensis. Roedd o deulu bonheddig ond yn ôl pob tebyg heb fod yn gyfoethog. Pan oedd yn ŵr ifanc bu Macrinus yn gweithio fel negesydd, fel heliwr proffesiynol a hyd yn oed fel gladiator. Aeth i Rufain i weithio fel cyfreithiwr, a phenododd Plautanius, pennaeth Gard y Praetoriwm ef fel ei asesydd cyfreithiol personol. Wedi i Plautanius gael ei lofruddio yn 205, bu Macrinus yn gweinyddu eiddo'r ymerawdwr, ac yn 212 penodwyd ef yn bennaeth Gard y Praetoriwm. Yn y flwyddyn 217 roedd yn un o arweinwyr y cynllwyn yn erbyn yr ymerawdwr Caracalla, ac wedi llofruddiaeth Caracalla cyhoeddwyd ef yn ymerawdwr gan ei filwyr.
Addawodd Macrinus deyrnasu yn ysbryd Marcus Aurelius yn hytrach na Caracalla. Ei brif broblem oedd y rhyfel yn erbyn y Parthiaid oedd wedi ei gychwyn yn nheyrnasiad Caracalla. Yn dilyn brwydr gyfartal yn Nisibis, cytunodd yr ymerawdwr i roi diwedd ar yr ymladd trwy dalu 200,000,000 sesterce i'r Parthiaid a gadael Armenia iddynt. Ariannwyd y taliadau hyn trwy leihau cyflog y milwyr, a throes hyn y fyddin yn ei erbyn. Aeth pethau'n waeth pan ymddangosodd Varius Avitus (Heliogabalus) yn honni bod yn etifedd i Caracalla. Ar fore'r 16 Mai 218 cyhoeddodd y llengoedd y bachgen 14 oed hwn yn ymerawdwr. Ar yr 8 Mehefin 218 bu brwydr rhwng milwyr Macrinus a milwyr Heliogabalus, a gorchfygwyd Macrinus. Bu raid i Macrinus ffoi, ond cafodd ei adnabod yn Calcedonia, yn disgwyl llong i groesi'r Bosphorus, a daliwyd ef. Dienyddiwyd ef yn ystod Mehefin neu Gorffennaf 218 yn Archelais. Dilynwyd ef fel ymerawdwr gan Heliogabalus.
Rhagflaenydd: Caracalla |
Ymerawdwr Rhufain 11 Ebrill 217 – 8 Mehefin 218 |
Olynydd: Heliogabalus |