Yn yr henfyd, Cappadocia neu Capadocia, Twrceg: Kapadokya, Groeg: Καππαδοκία (Kappadokía), oedd yr enw a ddefnyddid am ran sylweddol o ganolbarth Asia Leiaf (Twrci heddiw). Nid yw'n enw rhanbarth swyddogol yn Nhwrci heddiw, ond mae'n parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer twristiaeth, gan gyfateb yn fras i dalaith Nevşehir.

Cappadocia
Mathrhanbarth, atyniad twristaidd, ardal hanesyddol, cave monastery Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhanbarth Canoldir Anatolia Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Cyfesurynnau38.67056°N 34.83917°E Edit this on Wikidata
Map
Golygfa yn Cappadocia

Amrywiai ffiniau Cappadocia; yn amser Herodotus roedd tiroedd y Cappadociaid yn ymestyn o ardal Mynydd Taurus hyd y Môr Du. Yn yr ystyr yma, roedd yn ffinio ag Afon Euphrates yn y dwyrain a Pontus yn y gogledd.

Ceir cofnodion am Cappadocia yng nghyfnod yr Ymerodraeth Bersaidd, yn ystod teyrnasiad Darius I a Xerxes, fel un o'r gwledydd oedd yn rhan o'r ymerodraeth. Yn ddiweddarach, rannwyd yr ardal yma yn ddwy satrapi gan y Persiaid, un yn dwyn yr enw Pontus a'r llall, yng nghanol Anatolia, yn dwyn yr enw Cappadocia.

Talaith Cappadocia yn yr Ymerodraeth Rufeinig

Yn ddiweddarch, concrwyd yr ardal am gyfnod gan Perdiccas, un o gadfridogion Alecsander Fawr, ond llwyddodd i ennill ei hanibyniaeth yn weddol fuan. Pan ddechreuodd dylanwad Gweriniaeth Rhufain gyrraedd yr ardaloedd hyn, bu'r Cappadociaid mewn cynghrair a Rhufain yn erbyn yr Ymerodraeth Seleucaidd. Cawsant gefnogaeth Rhufain yn erbyn ymosodiadau Mithridates VI, brenin Pontus a Tigranes Fawr, brenin Armenia. Wedi i Rufain orchfygu'r ddau yma, daeth Ariobarzanes yn frenin Cappadocia dan nawdd Rhufain.

Yn 17 OC, ar farwolaeth y brenin Archelaus, gwnaeth yr ymerawdwr Tiberius Cappadocia yn dalaith Rufeinig. Ad-feddiannwyd Cappadocia gan y Persiaid yn dilyn marwolaeth yr ymerawdwr Valerian I yn 260.

Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia