Awdur straeon byrion o Ganada yw Madeleine Thien (Tsieinieg traddodiadol: 鄧敏 靈; ganwyd 25 Mai 1974) sydd hefyd yn nofelydd nodedig. Erbyn 2019, cyfieithwyd ei llyfrau i fwy na 25 o ieithoedd.[1][2]

Madeleine Thien
Ganwyd25 Mai 1974 Edit this on Wikidata
Vancouver Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Canada Canada
Alma mater
  • Prifysgol Simon Fraser
  • Prifysgol British Columbia Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, ysgrifennwr, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg Brooklyn Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDo Not Say We Have Nothing Edit this on Wikidata
PartnerRawi Hage Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Scotiabank Giller, Prix littéraire du Gouverneur général, Amazon.ca First Novel Award, City of Vancouver Book Award, Kiriyama Prize, Ethel Wilson Fiction Prize, Ovid Prize Edit this on Wikidata

Mae Llawlyfr Llenyddiaeth Canada yn mynegi bod ei gwaith yn adlewyrchu natur gynyddol draws-ddiwylliannol llenyddiaeth Canada, gan archwilio celf, mynegiant a gwleidyddiaeth y tu mewn i Gambodia a Tsieina, yn ogystal ag o fewn cymunedau Asiaidd diasporig.[3][4]

Yn 2016 enillodd ei nofel Do Not Say We Have Nothing, Wobr y Governor General am ffuglen Saesneg, Gwobr Scotiabank Giller, a Gwobr Edward Stanford am y Teithlyfr Ffuglenol Gorau. Fe'i rhoddwyd ar y rhestr fer yn 2016 ar gyfer Gwobr Man Booker, Baileys Women's Prize for Fiction, a Gwobr Rathbones Folio Prize (2017).

Magwraeth golygu

Fe'i ganed yn Vancouver i dad Tsieineaidd o Malaysia a mam Tsieineaidd o Hong Kong. Astudiodd ddawns gyfoes ym Mhrifysgol Simon Fraser a gradd Meistr yn y Celfyddydau Cain gan arbenigo mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol British Columbia.[5]

Gwnaeth Thien y penderfyniad i newid o Ddawns i ysgrifennu creadigol am ychydig resymau, ond yn bennaf oherwydd ei bod yn teimlo'n annigonol o ran ei thalent, er gwaethaf ei hangerdd dros y gelfyddyd. Cyn gweithio fel golygydd i'r Rice Paper Magazine, bu’n gweithio, o oedran ifanc, mewn swyddi clerigol, manwerthu ac men bwyty. [6][7]

Gyrfa golygu

Mae llawer o weithiau Thien yn canolbwyntio ar y thema 'amser' mewn cysylltiad â 'lle' ac 'emosiwn dynol'. Mewn cyfweliad â Granta o 2016, dywed ei bod yn meddwl am “y ffordd mae bywydau menywod yn cael eu mynegi mewn llenyddiaeth ar hyn o bryd,” a bod ganddi ddiddordeb mewn ysgrifennu am fenywod o liw ac am rhywioldeb.

Yn 2001, cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf o'r enw Simple Recipes. Mae'r llyfr yn gasgliad o ddarnau byrion o ffuglen sy'n archwilio gwrthdaro o fewn cenedlaethau ac mewn dwy stori, perthnasoedd rhyngddiwylliannol.[8] Yn yr un flwyddyn, addasodd Thien ffilm fer yr artist Joe Chang (a gomisiynwyd gan y Bwrdd Ffilm Cenedlaethol), The Chinese Violin (2001), yn llyfr plant. Mae'r stori'n dilyn taith merch ifanc Tsieineaidd wrth iddi hi a'i thad, sy'n gerddor, addasu i fywyd yn Vancouver.[9]

Mae nofel gyntaf Thien, Sicrwydd (Toronto: M&S, 2006; Efrog Newydd: Little, Brown, 2007; London: Faber, 2007), yn dilyn cynhyrchydd dogfennol wrth iddi chwilio am y gwirionedd am brofiad ei thad yn byw ym Malysia dan reolaeth Japan. Cyhoeddwyd y nofel yn rhyngwladol a'i chyfieithu i 16 iaith.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Scotiabank Giller (2016), Prix littéraire du Gouverneur général (2016), Amazon.ca First Novel Award (2007), City of Vancouver Book Award (2001), Kiriyama Prize (2001), Ethel Wilson Fiction Prize (2002), Ovid Prize (2010)[10][11][12][13][14] .

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014
  2. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
  3. Sugars, Cynthia (2016). The Oxford Handbook of Canadian Literature. New York: University of Oxford Press. tt. 71, 574, 892.
  4. Kröller, Eva-Marie (2017-06-08). The Cambridge companion to Canadian literature. Kröller, Eva-Marie (arg. Second). Cambridge. ISBN 9781107159624. OCLC 971615629.
  5. LORRE-JOHNSTON, CHRISTINE. "Madeleine Thien". The Canadian Encyclopedia (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-03-21.
  6. Anrhydeddau: https://en.wikipedia.org/wiki/Giller_Prize. https://livresgg.ca/gagnants-et-finalistes-precedents. dyddiad cyrchiad: 30 Mawrth 2021. https://www.goodreads.com/award/show/17203-amazon-ca-first-novel-award. https://www.thecanadianencyclopedia.ca/fr/article/madeleine-thien. https://www.thecanadianencyclopedia.ca/fr/article/madeleine-thien. https://www.thecanadianencyclopedia.ca/fr/article/madeleine-thien. https://en-academic.com/dic.nsf/enwiki/11623141.
  7. "Emerging Writers Award". www.asiancanadianwriters.ca. Cyrchwyd 2017-03-21.
  8. "Reading Guide: Simple Recipes". PenguinRandomHouse Canada.
  9. "The Chinese Violin". Today's Parent 19: 18. 2002.
  10. https://en.wikipedia.org/wiki/Giller_Prize.
  11. https://livresgg.ca/gagnants-et-finalistes-precedents. dyddiad cyrchiad: 30 Mawrth 2021.
  12. https://www.goodreads.com/award/show/17203-amazon-ca-first-novel-award.
  13. https://www.thecanadianencyclopedia.ca/fr/article/madeleine-thien.
  14. https://en-academic.com/dic.nsf/enwiki/11623141.