Roedd Madog ap Selyf (fl. cyn 1282) yn llenor o Gymro yn yr iaith Ladin a chyfieithydd o'r iaith honno i'r Gymraeg. Fe'i cysylltir ag ardal Ceredigion.

Madog ap Selyf
Galwedigaethcyfieithydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ychydig iawn sy'n hysbys amdano. Tybir ei fod yn ŵr eglwysig yn Abaty Ystrad Fflur, ond nid oes tystiolaeth uniongyrchol o hynny. Posiblrwydd arall yw ei fod yn gysylltiedig â Llanbadarn.[1]

Cyfieithodd o leiaf ddau destun Lladin i'r Gymraeg rywbryd yn drydydd chwarter y 13g. Un ohonynt yw trosiad Cymraeg o'r Turpini Historia, sy'n adrodd rhan o hanes Siarlymaen, dan y teitl Cronicl Turpin. Mae'r testun i'w cael yn Llyfr Gwyn Rhydderch. Dyma a geir mewn coloffon i'r dudalen gyntaf:

A'r llyuyr hwnn a ymchoeles (cyfieithodd) Madawc ap Selyf o Ladin yg Kymraeg, o addolwyn a deisyf Grufud vab Maredud ab Owein ab Grufud ab Rys.[1]

Ar ofyniad Gruffudd ap Maredudd ab Owain, un o ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth, y gwnaeth Madog y gwaith, felly. Rydymm yn gwybod ei fod wedi trosi testun arall o'r Lladin i Gymraeg yn ogystal. Cyfieithiad o'r testun crefyddol poblogaidd Transitus Mariae yw hynny. Unwaith eto mae'r testun yn y Llyfr Gwyn.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Stephen J. Williams (gol.) Ystorya de Carolo Magno (Caerdydd, 1968). Rhagymadrodd.