Cronicl Turpin

llawysgrif Gymraeg gan y llenor Madog ap Selyf (fl. cyn 1282)

Mae Cronicl Turpin yn drosiad Cymraeg Canol gan y llenor Madog ap Selyf (fl. cyn 1282) o waith Lladin poblogaidd a elwir Turpini Historia. Mae'n ffurfio rhan o gyfres o destunau am fywyd a gorchestion yr ymerodr Siarlymaen, a oedd ar gael yn Gymraeg yn yr Oesoedd Canol dan y teitl Ystorya de Carolo Magno (teitl y testunau am gylch Siarlymaen yn Llyfr Coch Hergest).

Cronicl Turpin
Llinellau agoriadol Chronicl Turpin allan o Lyfr Coch Hergest
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif, adaptation Edit this on Wikidata
AwdurMadog ap Selyf Edit this on Wikidata
Rhan oLlyfr Coch Hergest Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1285 Edit this on Wikidata

Priodolir y cronicl i un Iohannes Turpinus, Archiepiscopus Remensi, sef Ioan Twrpin, Archesgob Reims (yn Ffrainc), ond gwyddom erbyn hyn mai ffugiad yw hynny. Serch hynny mae'n amlwg fod yr awdwr anhysbys yn Ffrancwr.

Cafwyd sawl cyfieithiad i'r Ffrangeg o'r Turpini Historia, e.e. gan Nicholas de Senlis (tua 1200) a William de Briane (tua chanol y 13g).

Llyfryddiaeth golygu

Stephen J. Williams, Ystorya de Carolo Magno (Caerdydd, 1968)

Cyfeiriadau golygu