Defnyddiwyd yr enw Awyr Cymru (Saesneg: Air Wales) gan ddau gwmni hedfan. Lansiwyd y cyntaf ar 6 Rhagfyr 1977 er mwyn teithio yn ôl ac ymlaen o Faes Awyr Caerdydd, Y Rhws i Faes Awyr Penarlâg yn Sir y Fflint. Arferai'r cwmni hedfan o Gaerdydd (a chyn hynny o Abertawe a Phen-bre) i nifer o faesydd awyr yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon a Ffrainc. Daeth i ben wedi gwasanaeth o ddeunaw mis.[1]

Awyr Cymru
Math
cwmni hedfan
Sefydlwyd1997
Daeth i ben23 Ebrill 2006
PencadlysMaes Awyr Caerdydd
Gwefanhttp://www.airwales.co.uk Edit this on Wikidata
ATR 42 Awyr Cymru, Maes Awyr Caerdydd

Roedd yr ail gwmni yn gwmni hollol annibynnol, heb unrhyw gysylltiad gyda'r cyntaf. Yr un oedd ei leoliad, sef Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, ond dim ond y tu fewn i wledydd Prydain roedd yn hedfan. Daeth i ben ar 23 Ebrill 2006 "oherwydd costau cynyddol" a "chystadleuaeth ffyrnig" gan gwmniau enfawr.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "BBC news:Wales:Airline to end scheduled flights". Gwefan y BBC. BBC. 2006-03-23. Cyrchwyd 2010-03-02.