Maes Awyr Caernarfon

Lleolir Maes Awyr Caernarfon (ICAO: EGCK) i'r de-orllewin o Gaernarfon yng Ngwynedd, Cymru. Mae'n faes awyr hedfan sifil.

Maes Awyr Caernarfon
Mathmaes awyr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaernarfon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1017°N 4.3375°W Edit this on Wikidata
Map
Maes Awyr Caernarfon
Caernarfon Airport

IATA: noneICAO: EGCK
Crynodeb
Rheolwr Air Caernarfon Limited
Gwasanaethu Caernarfon
Lleoliad Caernarfon, Gwynedd
Uchder 14 tr / 4 m
Gwefan www.caernarfonairport.co.uk
Lleiniau glanio
Cyfeiriad Hyd Arwyneb
tr m
02/20 3,543 1,080 Asffalt
08/26 3,077 938 Asffalt

Mae gan gwmni Maes Awyr Caernarfon Drwydded Gyffredin y CAA (Rhif P866), sy’n caniatáu hedfan gwasanaethau cludiant cyhoeddus i deithwyr gan y cwmni trwyddedig, Air Caernarfon Cyf. Dydy'r maes awyr ddim yn drwyddedig am ddefnydd yn ystod y nos.[1]

Ceir caffi mawr yn y maes awyr, yn ogystal ag awyrendai cynhaliaeth a storfa, canolfan ymwelwyr a siop, sydd yn rhan o’r Amgueddfa Awyr ar y safle. Mae Academi Awyr Gogledd Cymru a Heliganolfan Caernarfon yn ysgolion hedfan sydd wedi'u lleoli ar y safle.

Agorwyd y maes awyr yn 1941 fel RAF Llandwrog. Roedd y ganolfan awyr yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi saethwyr, gweithredwyr radio a llyw-wyr, ac yn nes ymlaen fel canolfan i Wasanaeth Achub Mynydd yr RAF.[2] Am weddill yr Ail Ryfel Byd RAF Llandwrog oedd y maes awyr mwyaf yng Nghymru.

Peidiodd yr RAF ddefnyddio'r maes awyr yn 1953. Ers 2003 mae wedi bod yn gartref i hofrennydd gogledd Cymru yr elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-10. Cyrchwyd 2015-04-09.
  2. http://www.caernarfonairport.com/
  Eginyn erthygl sydd uchod am awyrennu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.