Maes Awyr Rhyngwladol Ben Gurion

(Ailgyfeiriad o Maes Awyr Lod)

Prif faes awyr rhyngwladol Israel a'r maes awyr prysuraf yn y wlad yw Maes Awyr Rhyngwladol Ben Gurion (Hebraeg: נמל התעופה הבינלאומי בן גוריון; Arabeg: مطار بن غوريون الدولي). Enwir ar ôl David Ben-Gurion, prif weinidog cyntaf Israel, ac adnabyddir gan y codau TLV (IATA) ac LLBG (ICAO) yn ogystal â'r enw cyffredin Natbag (Hebraeg: נתב״ג). Maes Awyr Ben Gurion yw'r foth ar gyfer cwmnïau hedfan El Al, Israir Airlines, Arkia, a Sun D'Or. Yn 2016 aeth tua 18 miliwn o deithwyr trwyddo, ac felly Ben Gurion oedd yr wythfed maes awyr ar ddeugain prysuraf yn Asia.[1] Lleolir yng nghanolbarth y wlad, 19 km (12 mi) i dde-ddwyrain Tel Aviv a 40 km (25 mi) i ogledd-orllewin Jeriwsalem.[2] Gweithredir Maes Awyr Ben Gurion gan Awdurdod Meysydd Awyr Israel, corfforaeth a berchenogir gan y llywodraeth sy'n rheoli'r holl feysydd awyr cyhoeddus a chroesfannau'r ffin yn Israel.

Maes Awyr Rhyngwladol Ben Gurion
Mathmaes awyr rhyngwladol, erodrom traffig masnachol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDavid Ben-Gurion Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Ebrill 1937 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Canolog Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Uwch y môr135 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.0094°N 34.8828°E Edit this on Wikidata
Nifer y teithwyr20,008,532 Edit this on Wikidata
Rheolir ganIsrael Airports Authority Edit this on Wikidata
Map

Maes Awyr Ben Gurion yw un o'r pum maes awyr gorau yn y Dwyrain Canol oherwydd profiad ei deithwyr a'i ddiogelwch uchel.[3] Yn ogystal â gwarchodwyr y maes awyr mewn gwisg ac mewn dillad plaen, amddiffynnir Ben Gurion gan luoedd diogelwch cenedlaethol gan gynnwys Heddlu Israel, milwyr yr IDF, ac Heddlu'r Goror. Bu'r maes awyr yn darged i sawl ymosodiad terfysgol, ond nid yw'r un ymgais i herwgipio awyren ar ei chychwyn o Ben Gurion wedi llwyddo.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "IAA Periodic Activity Reports for Ben Gurion Airport". IAA Website. Israel Airports Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-12. Cyrchwyd 15 Ionawr 2017.
  2. "AD 2.5 TEL-AVIV / BEN-GURION – LLBG". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-12. Cyrchwyd 2014-07-18.
  3. "ASQ Awards". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-28. Cyrchwyd 3 Mehefin 2015.

Dolenni allanol

golygu