Maes Awyr Caerdydd ydy unig faes awyr mawr Cymru. Fe'i lleolir ym mhentref Y Rhws ym Mro Morgannwg, tua 12 milltir (19 km) i'r de-orllewin o Gaerdydd. Codau: IATA: CWL, ICAO: EGFF)

Maes Awyr Caerdydd
Mathmaes awyr, erodrom traffig masnachol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCaerdydd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1952 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr220 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.3967°N 3.3433°W Edit this on Wikidata
Nifer y teithwyr857,397 Edit this on Wikidata
Rheolir ganAbertis Edit this on Wikidata
Map
Maes Awyr Caerdydd
Cardiff Airport


Mynedfa Maes Awyr Caerdydd

IATA: CWL – ICAO: EGFF
Crynodeb
Perchennog Llywodraeth Cymru
Rheolwr Cardiff Airport Limited
Gwasanaethu Caerdydd
Lleoliad Y Rhws, Bro Morgannwg
Uchder 220 tr / 67 m
Gwefan www.maesawyr-caerdydd.com
Lleiniau glanio
Cyfeiriad Hyd Arwyneb
tr m
12/20 7,848 2,392 Asffalt

Hanes golygu

Sefydlwyd y maes awyr yn y 1940au pan gymerodd y Weinyddiaeth Awyr y tir i sefydlu maes ymarfer i'r Awyrlu Brenhinol. Dechreuwyd ar y gwaith ym 1941 ond laniodd yr un awyren fasnachol tan 1952 pan ddechreuodd cwmni Aer Lingus hedfan yno o Ddulyn. Codwyd adeilad newydd wedyn a dechreuwyd teithiau i Ffrainc, Belffast a Chorc. O ganlyniad i deithiau arbennig i bobl a oedd yn mynd ar wyliau, cododd nifer y teithwyr y flwyddyn i dros 100,000 erbyn 1962.

Tan y 1970au, enw'r maes awyr oedd 'Maes Awyr y Rhws' ond newidiwyd hyn i 'Faes Awyr Y Rhws, Morgannwg'. Ymwelodd yr awyren Concorde â'r maes awyr sawl gwaith ar achlysuron arbennig er i deithiau gael eu cyfyngu gan hyd y lanfa. Uwchraddiwyd enw'r maes awyr i 'Maes Awyr Caerdydd, Cymru' er bod Caerdydd rhyw 10 milltir i ffwrdd.

Denwyd mwy o fusnes i'r maes awyr wedi i'r lanfa gael ei hymestyn ym 1986 gan fod awyrennau jet newydd yn gallu glanio yno. Byddai awyrennau siarter i UDA a Chanada yn gadael y maes awyr, gan greu cysylltiadau awyr o Gymru. Sefydlwyd cyfleusterau cynnal a chadw gan British Airways yno hefyd ac maen nhw'n parhau yno hyd heddiw.

Yn Ebrill 1995, cafodd y maes awyr ei breifateiddio a gwerthwyd y cyfranddaliadau i gwmni TBI ccc, sydd bellach yn is-gwmni i 'abertis airports'.

Bu cwmni awyrennau cenedlaethol Awyr Cymru yn hedfan o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd (a Maes Awyr Abertawe am gyfnod) i nifer o leoedd nes i'r cwmni ddod i ben yn 2006.

Erbyn 2006 roedd dros 2 filiwn o deithiau yn defnyddio'r maes awyr yn flynyddol.

Hedfan mewnol golygu

Mae teithiau awyr mewnol wedi dechrau ym Mai 2007 yn sgil Goblygiad Gwasanaeth Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Am y tro cyntaf, bydd cysylltiad awyr rhwng gogledd a de Cymru, gyda dwy daith ddyddiol rhwng Maes Awyr Môn a Chaerdydd yn ystod yr wythnos.


Ystadegau golygu

Gweld ymholiadau Wicidata a chyfieithu.


Dolen allanol golygu