Maes Ffordd Victoria
stadiwm pêl-droed, Port Talbot
Cae chwarae pêl-droed ar Ffordd Victoria ym Mhort Talbot yw Maes Ffordd Victoria (Victoria Road Field).
Math | stadiwm |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Port Talbot |
Sir | Port Talbot |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 51.5903°N 3.8022°W |
Perchnogaeth | C.P.D. Tref Port Talbot |
Adnoddau
golyguCapasiti y stadiwm yw 6,000.[1] (1,000 yn eistedd)[2] Dyma gartref tîm C.P.D. Tref Port Talbot.
Torf fwyaf y stadiwm oedd 2,640 ar gyfer gêm yn erbyn Abertawe yng Nghwpan C.P.-D. Cymru (FAW Premier Cup) ar 15 Ionawr 2007. Y record ar gyfer gêm gynghrair oedd 804 mewn gêm yn erbyn Afan Lido ar 27 Ionawr 2004. Yn anffodus, dydy'r tîm cartref ddim yn denu torfeydd cystal fel rheol. Y dorf gyfartalog rhwng 1994 a 2010 oedd 'mond 207.[3] Mewn ymdrech i ddenu rhagor o dorf rhoddodd y clwb y dewis i'r dorf dalu beth bynnag oeddynt am yn ei gêm yn erbyn Y Bala ar 5 Ionawr 2013.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Football Temples of the World – Wales Archifwyd 14 Medi 2008 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Port Talbot Town F.C. – Club History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-30. Cyrchwyd 2021-02-20.
- ↑ 3.0 3.1 "Port Talbot Town football fans choose ticket price". BBC News. London. 5 January 2013. Cyrchwyd 5 January 2013.