Maesglase
mynydd (678.5m) yng Ngwynedd
Mae Maesglase (weithiau Maesglasau) yn fynydd yn ne Gwynedd. Fe'i hystyrir yn rhan o fynyddoedd Cadair Idris, er fod y ffordd A487 o Dolgellau i Gorris yn ei wahanu oddi wrth Gadair Idris ei hun. Saif ychydig i'r gorllewin o bentref Dinas Mawddwy a thua 4 milltir i'r de-orllewin o Aran Fawddwy.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cader Idris |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 678.5 metr |
Cyfesurynnau | 52.719996°N 3.752504°W |
Cod OS | SH8173115037 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 318.1 metr |
Rhiant gopa | Maesglase |
Cadwyn fynydd | Cader Idris |
Gellir ei ddringo o bentref Dinas Mawddwy, neu o'r ffordd A470 ychydig i'r gorllewin o Ddinas Mawddwy. Am daith hirach gellir dringo Cribin Fawr, sydd ychydig i'r gorllewin, o'r man parcio ger Bwlch Oerddrws ac yna dilyn y grib i gopa Maesglase.
Ar lethrau dwyreiniol y mynydd mae Cwm Maesglasau, lle roedd yr emynydd a bardd Hugh Jones, Maesglasau (1749-1825) yn byw.
Llyfryddiaeth
golygu- Terry Marsh The Summits of Snowdonia (Robert Hale, 1984)